Ewch i’r prif gynnwys

System Delweddu Celloedd

Mae ein system delweddu celloedd EVOS M7000 yn system ddelweddu awtomataidd ddatblygedig sy’n defnyddio fflworoleuedd i ddelweddu celloedd byw dros gyfnod hir o amser.

Brand/model System Delweddu Celloedd Byw EVOS M7000
Manylion Amcanion: 4x aer, 10x aer, 20x aer, 40x aer. Blociau LED
Ysgol Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Deorydd ac arno lwyfan (platfform) ar gyfer delweddu celloedd byw, llwyfan awtomataidd gyda staciau Z ac opsiynau cysylltu (pwytho) teils (tile stitching). Mae gan y deorydd reolaeth fanwl gywir dros amodau a lleithder arferol neu hypocsig. Gall gymryd delweddau o hyd at 96 o blatiau-ffynnon yn ogystal â siambrau celloedd byw ibidi.

I drefnu i ddefnyddio’r cyfarpar hwn, ebostiwch Dean Routledge routledged1@caerdydd.ac.uk gan nodi’r canlynol:

  • y cyfarpar yr hoffech chi ei ddefnyddio
  • rhif yr ystafell y mae’r cyfarpar ynddo (Ystafell 1.49D)
  • y dyddiad a'r amser yr hoffech chi ddefnyddio’r cyfarpar
  • faint o amser y byddwch angen y cyfarpar

I ofyn cwestiynau technegol am y cyfarpar dan sylw, ebostiwch Denise Barrow barrowd@caerdydd.ac.uk

Cysylltwch

Professor Arwyn Jones

Email
jonesat@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6431

Lleoliad

1.49D
Redwood Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
CF10 3NB