Ewch i’r prif gynnwys
Kara Johnson

Kara Johnson

Swyddog Gweinyddol

Trosolwyg

Swyddog Gweinyddol – Cefnogi pob agwedd ar Raglenni Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Caerdydd

Bywgraffiad

Wrth astudio ar gyfer BA (Anrh) mewn Ffilm a Theledu Dogfennol, sefydlais wasanaeth cerdded a phreswylio cŵn, a chefais lawer o hwyl yn ei redeg. Ar ôl graddio, cyflawnais amrywiaeth o rolau mewn addysg uwch a sefydliadau'r sector cyhoeddus, gan ddarganfod bod gen i ddiddordeb mewn rheoli prosiectau a gwella prosesau.  


Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn hydref 2019 i weithio i Dîm Lleoliad Gwaith yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Fel rhan o'r swydd honno, roeddwn yn trefnu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y GIG a gyda darparwyr preifat. Roedd y swydd honno'n eithaf heriol, yn enwedig yn ystod y pandemig, pan aeth cydweithwyr a myfyrwyr y filltir ychwanegol. Roedd lleoliadau gwaith yn newid yn gyson, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio a faint rwy'n mwynhau gweithio mewn tîm a datrys problemau.


Yna ymunais â'r Academi Dysgu ac Addysgu ym mis Ebrill 2022, gan gefnogi Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd a mwynheais weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm Cymrodoriaethau Addysg.