Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Mae Sally Griffith yn Gynhyrchydd Ymchwil a Datblygu yn media.cymru, ac mae'n arwain ar Sgiliau, Newyddion a chreu rhaglen ariannu decach a mwy cynhwysol ar gyfer y sector cyfryngau yng Nghymru.  Mae media.cymru yn gonsortiwm gwerth £50 miliwn â 23 o bartneriaid a ariennir gan UKRI, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i hybu arloesedd yn y sector cyfryngau cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru. 

Ar ôl gweithio ym maes arloesedd y cyfryngau yn Clwstwr ac addysg arddangosfeydd sinema a ffilm am dros 25 mlynedd, mae Sally’n dod â chynulleidfaoedd, diwydiant, academia a chymunedau ynghyd i greu mannau ysbrydoledig, hygyrch a chroesawgar, a fydd o fudd i bawb.   Mae Sally wedi hyrwyddo ffilm yng Nghymru, gan sefydlu ac arwain y rhaglen ariannu a datblygu Canolfan Ffilm Cymru BFI yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Sinema yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, gan gefnogi dros 200 o leoliadau annibynnol ledled y wlad i greu profiadau sinematig safle-benodol o fewn lleoliadau, gwyliau a digwyddiadau arbennig.  Gan arwain y fenter Inclusive Cinema ar gyfer y DU, helpodd Sally leoliadau ledled y DU i ddod i ddeall dementia a dod yn fwy cynhwysol i dalent a chynulleidfaoedd.  Ar ôl cyfarwyddo mentrau ledled y DU, gan gynnwys BFI Gothic: The Dark Heart Of Film (2013) Roald Dahl On Film (2016) ac Anim18: A Celebration of British Animation (2018), gweithiodd Sally gyda Somerset House ar eu rhaglen Summer Screen Film4 (2018).   

Mae Sally yn hyfforddwr proffesiynol cymwysedig ac yn aelod o Grŵp Cynghori Gŵyl Animeiddio Caerdydd.

Cyhoeddiad

External profiles