Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Mae gyrfa Gavin yn ymestyn o’r 3ydd sector i’r diwydiannau creadigol, gan gynnwys rolau yn Ffilm Cymru Wales a Llenyddiaeth Cymru. Dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf mae Gavin wedi gweithio gyda gwyliau cerddorol, artistiaid o bob disgyblaeth ac ymarferwyr creadigol. Mae'r gwaith hwnnw wedi canolbwyntio'n bennaf ar ariannu, cynllunio strategol, ymchwil a datblygu ac archwilio'r gynulleidfa. Drwy gydol y daith hon, helpodd i godi tua £4miliwn a chynhyrchu canlyniadau gyda chyrhaeddiad byd-eang.  

Gyda Clwstwr a nawr Media Cymru, mae Gavin yn Gynhyrchydd dros dro sy'n cefnogi'r amrywiaeth eang o bobl greadigol o fewn y portffolio ac yn arwain meysydd thematig penodol. Ochr yn ochr â'i waith yn y brifysgol, mae'n gweithio'n agos â Gŵyl Glastonbury gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, gosodiadau newydd a chefnogi nifer o bobl greadigol sy'n gysylltiedig â'r ŵyl.