Mr Wyn Davies
Darlithydd
Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
- DaviesW9@caerdydd.ac.uk
- +44 29208 75152
- Adeilad Redwood , Ystafell Ystafell 0.61, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB
- Siarad Cymraeg
Trosolwyg
Ariannir Wyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu ac i gefnogi dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y rhaglen MPharm. Mae e hefyd yn dysgu cyrsiau ôl-raddedig ac WCPPE sy'n cydfynd gydag apwyntiadau tebyg yn yr Ysgolion Meddygaeth a Gofal Iechyd. Bydd profiad fferyllol sylweddol Wyn o fudd i'n holl fyfyrwyr israddedig ond bydd e'n canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi sgiliau clinigol a chyfathrebu ar gyfer ein myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Ei nod yw i sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'r system iechyd yng Nghymru.
Graddiodd Wyn o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd yn 2007. Wedyn aeth i weithio fel fferyllydd gofal eilaidd yn ei gynefin yn Ysbyty Nedd a Phort Talbot.
Yna aeth ati i weithio fel fferyllydd cymunedol, lle mae'n parhau i weithio hyd heddiw. Yn ogystal mae Wyn wedi derbyn tysysgrif uwch mewn astudiaethau llesiol pellach. Mae'n parhau i weithio fel cerddor hefyd yn recordio ac yn teithio o fewn y DU ac yn rhyngwladol gyda'r grŵp lleisiol enwog Only Men Aloud.