Ewch i’r prif gynnwys

Sir (Eric) Brian Smith

Gyda thristwch mawr y mae'r Brifysgol wedi cael gwybod am farwolaeth sydyn Syr Brian Smith, gynt yn Is-Ganghellor.

Addysgwyd Syr Brian yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Cilgwri, a bu'n astudio cemeg yn Lerpwl, lle y gwnaeth ei ddoethuriaeth mewn Cemeg Ffisegol. Dilynwyd hynny gan gymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn Berkeley. Ar ôl dychwelyd i'r DU cafodd ei benodi'n ddarlithydd yn Rhydychen, ac yn Gymrawd Sylfaen yng Ngholeg Santes Catrin, lle'r oedd yn Feistr rhwng 1988 a 1993.  Cafodd ei urddo'n farchog ym 1999 am ei waith yn sefydlu cysylltiadau rhwng y Brifysgol â byd diwydiant a masnach. Roedd ei ymchwil, a aeth rhagddi tra ei fod yn Is-Ganghellor, yn ymwneud ag effeithiau ffisiolegol nwyon: ymhlith y defnydd ymarferol o’r ymchwil roedd gweinyddu anestheteg gyffredinol ac archwilio tanddwr.

Ym 1993 fe'i penodwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Etifeddodd oddi wrth ei ragflaenydd, Syr Aubrey Trotman-Dickenson, sefydliad a oedd yn gadarn yn ariannol ac yn sefydliadol ar ôl uno Coleg y Brifysgol ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru. Roedd y Brifysgol bellach yn barod i ehangu llawer mwy, a daeth egni a brwdfrydedd Brian ar yr adeg iawn. Bydd sefydliadau'n ffodus os oes ganddynt y person cywir wrth y llyw yn brif weithredwr ar yr adeg iawn, a Brian oedd yr union beth hwnnw. Daeth ag ef rywfaint o'r ysbryd o fod yn Feistr coleg, gan gynnal llu o nosweithiau i gydweithwyr yn y breswylfa swyddogol, yn ogystal â chiniawau nos mwy ffurfiol yng nghwmni gwesteion nodedig. Roedd hefyd yn hynod o frwd dros y theatr. Yn Santes Catrin sefydlodd Gadair Cameron Mackintosh mewn Theatr Gyfoes ac yng Nghaerdydd creodd gyfres o ddarlithoedd gwadd disglair gan ddramodwyr nodedig.

Disgrifiodd Brian ei rôl o fod yn Is-Ganghellor yn un sy’n ymdebygu fwyaf i fod yn rheolwr pêl-droed (roedd yn gefnogwr brwd o dîm Lerpwl), gan recriwtio'r doniau gorau a meithrin talent. O dan arweiniad Syr Brian, ymrwymodd y Brifysgol i ymgyrch ar draws y sefydliad a fynnai ragoriaeth ymchwil. Os yw arweinyddiaeth academaidd yn golygu unrhyw beth, roedd gan Brian beth wmbreth ohoni, gan helpu'r Brifysgol i ddod o hyd i ddiben cyffredin. Roedd yr ymdrechion yn dwyn ffrwyth, wrth ddatblygu diwylliant dan arweiniad ymchwil a oedd wedi arwain yn ei dro at berfformiad gwell mewn Ymarferion Asesu Ymchwil, a hyn oedd wedi arwain at aelodaeth Prifysgol Caerdydd o Grŵp Russell.

Mae portreadau o Brian ynghrog yng Ngholeg Santes Catrin a Phrifysgol Caerdydd. Mynegodd ei ffrindiau syndod ei fod yn gallu eistedd yn llonydd yn ddigon hir i'r portreadau gael eu cwblhau. Roedd ei egni di-ben-draw’n cael ei drosglwyddo i’w gydweithwyr yn y Brifysgol ar bob lefel. Efallai bod ei angerdd am ddringo yn yr Alpau’n drosiad addas am yr hyn a gyflawnodd yn Rhydychen a Chaerdydd. Mae'r Brifysgol yn anfon ei chydymdeimlad dwysaf at Regina, y Foneddiges Smith, ac aelodau o'u teulu. Bydd colled fawr ar ei ôl.

Yr Athro Paul Atkinson
Athro Emeritws, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Gellir cael manylion yr angladd oddi wrth:

Sunita Farnham

Rwy'n sylweddoli bellach mai myfi oedd y person cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd i gwrdd â Brian Smith. Un o'm dyletswyddau oedd dangos darpar ymgeiswyr Is-Ganghellor (neu Brifathro fel y gelwid y swydd ym 1992) o amgylch y Brifysgol cyn iddyn nhw ymrwymo i'r prosesau dethol ffurfiol ac roedd hyn yn aml yn golygu cwrdd ar adegau pan na fyddai llawer o bobl o gwmpas. Roedd yr holl drafodaeth hyd at y pwynt hwnnw wedi bod drwy ein hymgynghorwyr chwilio (hynny yw, ein penhelwyr).

Felly ar fore Sadwrn heulog a llachar y cyfarfûm gyntaf â Brian y tu allan i'r prif adeilad a bryd hynny roedd yn amlwg bod hwn yn ymgeisydd a oedd yn wahanol i bob un arall - nid ar sail unrhyw wybodaeth broffesiynol fanwl am yr ymgeiswyr, ond yn hytrach y ffaith bod yr ymgeisydd yng nghwmni ei briod, rhywbeth nad oedd erioed wedi digwydd o'r blaen (na chwaith ers hynny yn fy mhrofiad i).

Yn ddiweddarach, mewn gwesty anghysbell ar gyrion y ddinas, roedd gofyn imi fugeilio ymgeiswyr i mewn ac allan o'u cyfweliadau ac i gynorthwyo'n gyffredinol o ran gweinyddu’r digwyddiad dethol, a golygai hyn imi gael y fraint o glywed Brian yn nodi sut y byddai’n mynd ati i wireddu potensial y sefydliad a oedd wedi uno’n ddiweddar.

Roedd gwireddu'r syniadau hynny yn rhan ganolog o ymdrechion pawb yn ystod y blynyddoedd canlynol, sef meithrin potensial y staff academaidd, gwella'r proffil ymchwil drwy recriwtio yn ogystal â meithrin agwedd 'gallwn gyflawni rhagor' tuag at ba heriau bynnag a godai.

Lluniasom gynllun ymddeol yn gynnar a oedd yn galluogi staff academaidd a oedd wedi treulio eu hamser i ymddeol gyda buddion annisgwyl. Roedd hyn yn caniatáu wedyn i Benaethiaid Adran lenwi'r swyddi gwag gan gynnal ymgyrchoedd penodol i recriwtio unigolion o safon uchel, ynghyd ag ymgyrch i sicrhau ein bod yn canolbwyntio mewn ffordd drefnus ar ragoriaeth wrth recriwtio, y cyfnod prawf a dyrchafu.

Cafodd y model cyllido adrannol rhagorol gan y Pennaeth blaenorol, a oedd yn seiliedig ar fformiwlâu, ei wella yn sgil cyllid pwyllgorau ymchwil, a hynny er mwyn recriwtio nifer o unigolion o safon uchel iawn a chyn hir aethon ni ati i ddefnyddio hysbysebion swyddi 'sblash mawr' a oedd yn fodd i ledaenu’r neges bod y Brifysgol â’i bryd ar gyflawni a llwyddo. Cyflwynodd Brian y teitl 'Athro Ymchwil Nodedig' a defnyddiodd ei rwydweithiau ei hun a rhai'r Penaethiaid Adrannol i ddod o hyd i enwau er mwyn i’n penhelwyr fynd ar drywydd ymgeiswyr tebygol. Mike O'Hara y daearegwr oedd y cyntaf i gyrraedd y ffordd hon.  Yr oedd yn rhaid i'r holl ymgeiswyr hynny fynd trwy bwyllgorau dethol ffurfiol, gan gynnwys un pan ddywedodd un o'r panel cyfweld wrth yr ymgeisydd, yr economegydd Patrick Minford, “Dyma'r tro cyntaf, a'r unig un yn ôl pob tebyg, pan rwy wedi bod ynghlwm wrth gyfweld â rhywun yr oedd ei enw yn ateb i gwestiwn ar ‘University Challenge’ neithiwr!”

Yn sgil ad-drefnu mewnol crëwyd 'Ysgol Caerdydd' y Biowyddorau, Newyddiaduraeth, ac yn dilyn rhywfaint o waith y tu ôl i’r llenni gan Paul Atkinson yn y Gwyddorau Cymdeithasol, roedd y cyfuniad deinamig a oedd yn dod ag ymchwil, ailstrwythuro a recriwtio at ei gilydd yn ddigon i ddenu Martin Evans, Huw Beynon, Terry Threadgold a llawer o bobl eraill. Bryd hynny, roedd rhai prifysgolion hynafol yn y DU yn parhau i osod 'cap' ar derfyn uchaf cyflogau athrawon (£42,000 yn ôl yr hyn a gofiaf) ac roedd hyn, o'i gyplysu â fformiwla’r cyflog terfynol ar gyfer pensiynau USS, yn golygu bod modd i Brifysgol Caerdydd fod yn atyniadol ar sail bersonol yn ogystal ag o ran cyllid 'gwaddol' ymchwil.

Byrdwn damcaniaeth Brian i'w bwyllgor dethol oedd y byddai ‘taenu’ nifer o 'sêr' nodedig ac o safon uchel iawn ymhlith y staff academaidd yn cael effaith gadarnhaol arnyn nhw, a bod y systemau rheoli ar ôl uno yng Nghaerdydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd na’r hyn a oedd yn bodoli gynt mewn lleoedd eraill i ysgogi newidiadau.

Roedd yn ymddangos bod ei effaith ar y bywyd diwylliannol yn llifo o'i bersonoliaeth allblyg, agored a chyfeillgar – gan fwyta'n rheolaidd yn ffreutur y staff (cofiaf un achlysur pan oedd y sgwrs yn ymwneud â chais a gefais gan y fyddin i ddefnyddio Tŵr Plas y Parc i wneud abseil elusennol... Roedd Brian yn awyddus iawn i'w wneud ei hun, ond yn ffodus cafodd y cais ei wrthod ar sail diogelwch!)

  • chwarae tennis yn rheolaidd gyda grŵp o staff
  • darlithoedd agored gan bobl ddiddorol megis Alan Ayckbourne
  • defnyddiai’r Trotman-Dickinsens dŷ'r Prifathro yng Nghadwyn Radur i gynnal nosweithiau ar gyfer grwpiau o staff yno. Gafaelodd Brian a Regina yn yr achlysuron hyn i’r graddau bod un ohonom a fyddai’n helpu i fod yn westeiwr yn galw'r rhain yn 'flynyddoedd y stroganoff'. Defnyddid y tŷ hwnnw hefyd i ymwelwyr sefyll y nos.

Enghraifft o’r ymdrech i fod yn wirioneddol groesawgar i’r staff oedd yr achlysur pan ymddeolodd y Cofrestrydd, yr Athro Bruton yn gynnar a dyrchafwyd Vanessa Cunningham i swydd newydd Pennaeth Gweinyddu. Er bod ymddeoliad yr Athro Bruton wedi arwain yn uniongyrchol at gaffael adeilad Morgannwg, roedd arddull swynol Mrs.Cunningham yn gwbl gyson ag un Brian. Roedd dyrchafiad yr Athro Hadyn Ellis, a oedd wedi arwain o ran cynlluniau'r pwyllgorau ymchwil, i rôl newydd Dirprwy Bennaeth yr un mor gyson yn ddiwylliannol.

Yn sgil gwaith Brian Smith, bu Prifysgol Caerdydd ar y blaen drwy gydol yr 1990au. Roedd y ffocws ar gyflwyno i RAE yn waith blinderus i'r rheini a oedd ynghlwm wrtho ond talodd ar ei ganfed.

Ymunodd llawer o'r bobl a fyddai’n ffynnu’n ddiweddarach, ac a ymgymerodd â’u rolau arwain eu hunain bryd hynny, pan ddatblygwyd y naill neu'r llall o'r cynlluniau hyn. Bu adegau pan oedd cynifer o ddigwyddiadau dethol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod nad oedd digon o leoedd i'w cynnal.

Ac mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain – ymunodd pan oedd Caerdydd yn y 45ain safle yn nhablau cynghrair ymchwil y DU ac yn y 5ed safle pan ymadawodd â’r Brifysgol.

Mae’r ffaith ein bod yn aelod o Grŵp Russell, sy'n parhau i gadarnhau mai lle arbennig yw Prifysgol Caerdydd, yn perthyn yn gyfan gwbl i Brian Smith. Er mai llwyddiant yr holl weithgarwch a arweiniodd sy’n sail i’r gydnabyddiaeth hon, digwyddodd hyn ond yn dilyn ymdrech bersonol enfawr i argyhoeddi'r rheini yr oedd angen eu hargyhoeddi ac nid oedd neb gwell na Brian Smith a allasai fod wedi cyflawni hynny.

Alastair McDougall
Cyfarwyddwr Personél
1990 - 2004