Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro John Radford

Bu farw’r Athro John Radford, Athro Deintyddiaeth Adferol yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd yn sydyn ac yn drasig ddydd Sul 20 Tachwedd 2022, yn 68 mlwydd oed, ar ôl mwynhau ei gêm olaf o golff ac ar ei ffordd i fynd i “Fagio Cestyll” yn ei ardal newydd, sef Caerdydd.

Roedd John yn glinigydd gwych ac yn addysgwr deintyddol i bob aelod o'r proffesiwn deintyddol, ond roedd yn gymaint mwy na hynny. Roedd yn symbylydd ysbrydoledig a lawenhâi yn llwyddiant ei fyfyrwyr, ac roedd yn meddu ar yr empathi i ailysgogi ac annog ar ôl rhwystrau.

Ganed John yn Birmingham yn 1953 a symudodd i Brighton yn 1956. Ar ôl hyfforddi yn Ysbyty Deintyddol Guys, Prifysgol Llundain (BDS, 1976), cafodd swydd breswyl fawreddog yn yr Adran Periodontoleg a Deintyddiaeth Ataliol, a arweiniodd at swydd Uwch-swyddog Preswyl mewn Llawfeddygaeth y Geg yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain. Yna dychwelodd i Guys yn rôl Cofrestrydd ym maes Deintyddiaeth Geidwadol. Roedd John yn ddeintydd manwl gywir ac yn glinigydd medrus, ond roedd bob amser yn cael ei dynnu at addysgu oherwydd ei allu i chwalu cysyniadau anodd.

Ymgymerodd â'i PhD yn Uned Ymchwil Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Downe, Caint, a chwblhaodd ei draethawd ymchwil, sef "The Influence on Diet of Dental Plaque on the incisor teeth of monkeys (Macaca fascicurlars)" yn 1987. Yn dilyn mwynhau swydd darlithydd yn Ysgol Ddeintyddol Bryste ac yna yn UMDS, enillodd John Uwch-ddarlithyddiaeth Glinigol ac iddi Statws Ymgynghorol yn Ysgol Ddeintyddol Dundee yn 1992, cyn cael ei ddyrchafu i fod yn Ddarllenydd Clinigol yn 2018, ac wedyn ennill Cadair bersonol yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn 2021.

Ym mis Hydref 2021, cychwynnodd John ar her newydd gyffrous, gan symud i Gymru i ymuno ag Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Ymunodd â chyn gyd-weithwyr hynod o annwyl iddo yr oedd wedi gweithio gyda nhw ym Mhrifysgol Dundee, a chyfarfu â chyfoeth o gyd-weithwyr a myfyrwyr newydd, y byddai'n eu hysbrydoli â'i egni a'i frwdfrydedd heintus. Cyn pen cyfnod byr iawn, daeth John i fod yn aelod hoff o'r tîm, ac yn ffrind a mentor da i lawer. Roedd yn amlwg ei fod yn croesawu ei swydd a’i rôl o fod yn arweinydd, ac y teimlai ei fod wedi gwneud cartref newydd yng Nghymru, gan ymuno â’r Royal Porthcawl Golf Club.

Gan gefnogi dysgu israddedig ac ôl-raddedig, bu John yn addysgu ar draws yr is-ddisgyblaethau deintyddiaeth adferol, cyfraith gofal iechyd, a phroffesiynoldeb. Mae ei alluoedd addysgu cydweithredol rhagorol, ei arbenigedd helaeth mewn deintyddiaeth adferol, a'i ofal hynod o empathig o gleifion wedi gadael eu hôl ar y cannoedd o fyfyrwyr a addysgodd, y cyd-weithwyr y bu'n gweithio gyda nhw, a'r cleifion y gofalodd amdanynt.

Er gwaethaf dilyn llwybr academaidd mor gonfensiynol mewn proffesiwn sy'n hoffi cael ateb "cywir" neu "anghywir", roedd John yn eofn o ran croesawu pynciau llosg ac ansicrwydd. Roedd ei egni o ran datblygu'r proffesiwn trwy fyfyrdod a meddwl beirniadol wrth wraidd ei addysgu, ac ysbrydolodd hyn genedlaethau o weithwyr deintyddol proffesiynol dros y blynyddoedd i beidio â dim ond derbyn yr hyn y maent yn ei ddarllen a'i glywed, ond i feddwl am yr wybodaeth a roddir ger eu bron ac i lunio eu barn eu hunain.

Ym mis Mehefin 2022, penodwyd John yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir, a chanolbwyntiodd ar ail-lunio a saernïo’r ddarpariaeth addysgu ôl-raddedig. Roedd gan John gynlluniau uchelgeisiol, addawol ar gyfer ei gyfnod yn y rôl hon, a oedd yn adlewyrchu ei ymroddiad diamheuol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl, ac yn graddio i fod yn weithwyr deintyddol proffesiynol hyderus, tosturiol. Bydd y gwaddol hwn yn parhau.

Roedd John hefyd yn Diwtor Anrhydeddus yn Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Ghana yn Accra, Ghana dros y blynyddoedd, lle’r oedd yn gefn i dwf a datblygiad deintyddion a deintyddiaeth yno. Cyfrannodd yn frwd at y proffesiwn yn ehangach, gan wasanaethu am 10 mlynedd yn rôl Aelod Panel Ffitrwydd i Ymarfer ar gyfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Am fwy na naw mlynedd, bu'n golygu "Other Journals in Brief" y British Dental Journal, gan gyfuno, gwerthuso a chrynhoi dros 800 o bapurau, a rhoi ei farn unigryw ei hun arnynt. Helpodd y gwaith hwn i sicrhau bod tystiolaeth a gwybodaeth ehangach am iechyd y geg ac iechyd deintyddol yn hygyrch i ddeintyddion mewn pynciau na fyddent fel arall wedi dod ar eu traws, a golygodd hefyd fod John yn un o'r bobl fwyaf darllengar ym myd deintyddiaeth.

Roedd John yn byw bywyd i'r eithaf ac yn buddsoddi 100% ym mhopeth a wnâi, boed yn Frisbee, rhedeg, coginio helaeth (ac eithafol), pobi bara neu bêl-droed, ac roedd ei fedrau golffio yn ardderchog. Roedd yn hynod o letygar tuag at ei gyd-weithwyr a'i fyfyrwyr, a fyddai’n mwynhau ei sirioldeb a'i haelioni diffuant.

Ddiwedd mis Chwefror eleni, dyfarnwyd gwobr wedi ei farw i John, sef gwobr alumni Guys, RDH, Kings Medical and Dental a Kings College Llundain, a dderbyniwyd ar ei ran gan David Radford, brawd John, a Tom Radford, ei fab.

Roedd John yn ddyn teulu mawr ac mae'n gadael ei wraig Frances, ei blant Daisy a Tom, a'i wyrion, Lachlan ac Adeline.

David R Radford, Thomas H Radford, Nicola Innes