Ewch i’r prif gynnwys

Professor Humphrey Palmer

Gyda thristwch y cyhoedda ei gyn gydweithwyr ym meysydd Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth farwolaeth yr Athro Humphrey Palmer ar 5 Mawrth 2021. Roedd yn athronydd nodedig a ymunodd ag Adran Athroniaeth Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ar y pryd yn 1958 ac a fu'n gwasanaethu fel Pennaeth yr Adran Astudiaethau Crefyddol am ddeng mlynedd tan ei ymddeoliad.

Ganwyd Nathaniel Humphrey Palmer yn Keighley, Gorllewin Swydd Efrog ym mis Tachwedd 1930. Ar ôl mynychu amryw o ysgolion, gan fod ei dad yn athro a symudai rhwng swyddi dysgu amrywiol, enillodd Humphrey ysgoloriaeth mynediad ac yna ysgoloriaeth lawn i Ysgol Westminster, gan fatriciwleiddio wedi hynny yn Eglwys Crist, Rhydychen. Ag yntau'n wrthwynebydd cydwybodol, cyflawnodd ei Wasanaeth Cenedlaethol fel llafurwr amaethyddol gan fyw yn y Brewhouse yno, cyn astudio Literae Humaniores (‘Greats’). Yn Rhydychen cyfarfu â myfyriwr ôl-raddedig o India, Elizabeth Theophilus, oedd yn astudio yng Ngholeg St. Anne. Yn dilyn hynny, bu Humphrey yn dysgu am flwyddyn neu ddwy mewn coleg cenhadol yng Ngogledd India, a phriododd Elizabeth yn Tambaram, ger Madras, ym mis Rhagfyr 1956. Yn fuan ar ôl dychwelyd i'r DU, penodwyd Humphrey i'r Adran Athroniaeth yng Nghaerdydd i ddysgu Athroniaeth a Diwinyddiaeth. Cyflawnodd ddoethuriaeth Prifysgol Cymru yn 1966 gyda The Logic of Criticism: An Analysis of the Methods of Textual and Documentary Critics with Special Reference to Epistemological Problems in Biblical Historiography, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach mewn cyfrol uchel ei pharch o'r enw The Logic of Gospel Criticism (1968).

Rhesymeg, iaith a'u defnydd mewn astudiaethau crefyddol a diwinyddol oedd wrth wraidd diddordebau academaidd Humphrey. Roedd The Logic of Gospel Criticism yn archwilio statws rhesymegol dadleuon yn ymwneud â'r perthnasoedd rhwng gwahanol Efengylau'r Testament Newydd, a dychwelodd at ei astudiaethau Beiblaidd ar ôl ymddeol gyda'r gyfrol How Parables Work (2008). Roedd dau lyfr arall yn ymwneud yn benodol ag iaith ddiwinyddol: Analogy: A Study of Qualification and Argument in Theology (1973), a Religion, Language, and Theology (1977). Yn ogystal â'r rhain roedd ganddo ddiddordeb arbenigol yn athroniaeth Kant, ac fe'i mynegodd nid yn unig yn ei fonograff ar Presupposition and Transcendental Inference (1985) ac yn Kant’s “Critique of Pure Reason”: An Introductory Text (1983), ond hefyd yn Kant’s “Critique of Pure Reason”: An Abridged Translation (1993) a'i gyfieithiad o waith neo-Kantaidd Leonard Nelson Progress and Regress in Philosophy (1970).

Roedd gan Humphrey hefyd ddiddordeb mawr mewn helpu myfyrwyr i ddeall rhesymeg ac ymresymu rhesymegol. I'r perwyl hwn ysgrifennodd Arguing for Beginners: A Fresh Approach to Reasoning (1979) a, gyda Donald Evans, Understanding Arguments (1983, 2nd edition 1986). Ynghyd â'r materion athronyddol hyn, roedd ganddo hefyd ddiddordeb yn y meddwl Indiaidd. Yn codi o'i waith yn goruchwylio myfyriwr graddedig yng Nghaerdydd, cyhoeddwyd Śaiva Siddhānta : An Indian School of Mystical Thought Presented as a System and Documented from the Original Tamil Sources by H.W. Schomerus: Translated from the German by Mary Law and Edited by Humphrey Palmer yn Delhi yn 2000. Ceir golwg wahanol ddifyr ar rai o'i ddiddordebau eang yn y cyhoeddiad cyntaf o'i waith a ysgrifennodd gydag Elizabeth: Palmers' Common Tamil Words : A Pocket Dictionary English to Tamil (cyhoeddwyd gan yr awduron ym Madras, 1964).

Cyrhaeddodd Humphrey Gaerdydd a choleg prifysgol lle'r oedd dysgu Diwinyddiaeth wedi bod yn fater cythryblus a pheripatetig. Ar wahanol adegau roedd yn cael ei gynnal yn Heol y Gadeirlan, Adeilad y Gyfraith, mewn tai ym Mhlas y Parc ac yn ddiweddarach (ynghyd ag addysgu Crefydd) fwy nag unwaith yn Adeilad y Dyniaethau (John Percival), lle'r ymsefydlodd yn y pen draw. Roedd Adran Astudiaethau Beiblaidd ac Ieithoedd Semitig wedi gweithredu ochr yn ochr â Chyfadran Diwinyddiaeth oedd yn cynnwys colegau diwinyddol lleol. Ar ôl uno, fodd bynnag, yn y 1980au cyfunwyd y Gyfadran Diwinyddiaeth gyda'r hyn oedd bellach yn Adran Astudiaethau Crefyddol, a daeth Humphrey Palmer yn Bennaeth yr Adran Astudiaethau Crefyddol ac yn Ddeon y Gyfadran Diwinyddiaeth. Gyda'i benodi, sefydlwyd perthynas academaidd fwy cydlynol o lawer rhwng y ddwy, ac ar yr un pryd roedd yn llywio adran fach ond weithgar o ran ymchwil drwy gyfnod helbulus pan oedd rhai pobl yn ystyried adrannau bach yn anhyfyw yn ariannol. Goruchwyliodd dwf Astudiaethau Crefyddol gyda phenodi staff newydd oedd ag arbenigedd ychwanegol mewn addysgu ieithoedd a hanes crefydd a chrefyddau India.  Roedd yr Adran Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol ehangach a ddatblygodd yn y blynyddoedd ar ôl iddo ymddeol yn ddyledus iawn i'r hyn roedd wedi'i sefydlu.

Ond caiff ei gofio am lawer mwy na'r pethau hyn, a gyda hoffter mawr, gan y rheini a fu'n gweithio gydag ef: am ei ymarferoldeb oedd weithiau'n syndod; am ei gydweithio siriol gyda dysgwyr ar gynifer o faterion, boed drwy'r adran Astudiaethau Allanol, ei gyfraniad i ddiwrnodau 'mewn swydd' athrawon, neu weithredu fel 'tyst' i fyfyrwyr y Gyfraith oedd yn ymarfer techneg holi tystion. Gyda'i natur dawel, bwyllog, ddiymhongar, a'i wên ymholgar, roedd yr Athro Humphrey Palmer yn unigolyn caredig a hynod ddyngarol yn ogystal ag yn ysgolhaig. Y tu hwnt i'r Brifysgol caiff ei gofio'n annwyl iawn hefyd ym Mhenarth, lle bu'n byw gydag Elizabeth ers 1976 a lle, gyda'i frwdfrydedd dros weithgareddau awyr agored, y bu'n mwynhau hwylio gyda Chlwb Hwylio Penarth a cherdded gyda grŵp cerdded mynyddoedd De Cymru. Yno hefyd, ar ôl iddo ymddeol, roedd Elizabeth ac yntau'n wirfoddolwyr poblogaidd a hoffus yn y siop Oxfam leol. Fe'i goroesir gan Elizabeth a'i fab Jeremy. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â hwy.

Robin Attfield, Christine Trevett a John Watt