Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Dylan M Jones OBE DSc

Bu’r Athro Dylan Jones yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd am bron i 50 mlynedd. Bryd hynny roedd llai na 10 aelod o staff yn gweithio yn yr Ysgol Seicoleg, gyda 40 o fyfyrwyr Israddedig a llond llaw o fyfyrwyr PhD yn astudio ynddi.

Cymhwysodd Dylan o Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, rhagflaenydd i’r Brifysgol Caerdydd fodern y dychwelodd iddi yn 1974 ar ôl treulio dwy flynedd yn gweithio gyda Donald Broadbent ym Mhrifysgol Rhydychen, a lle y treuliodd weddill ei yrfa.

Trwy Broadbent, canfu Dylan ddiddordeb oes ym maes sylw clywedol (auditory attention). Yn benodol, daeth Dylan yn adnabyddus am ei astudiaethau ar wrthdynnu sylw - pwnc yr ymchwiliodd iddo gan ddefnyddio technegau seicoleg arbrofol - am y gwaith hwn, fe ddyfarnwyd DSc er anrhydedd iddo gan Brifysgol Caerdydd. Bu i’r ymchwil hon herio’r model oedd yn rhoi goruchafiaeth i’r cof gweithredol. Yn feirniad ffyrnig ond meddylgar ynghylch syniadau y teimlai eu bod yn gyfeiliornus, dadleuodd Dylan, ynghyd â’r diweddar Athro Bill Macken, fod gorbwyslais ar y cof er ei fwyn ei hun mewn damcaniaethu cyfoes ac y gellid barnu ymddygiad bod dynol yn well fel rhywbeth sy’n ymateb i wrthrychau yn yr amgylchedd allanol neu i'r sefyllfa gyfan. I’r llu o fyfyrwyr ôl-raddedig a dderbyniodd anogaeth a chefnogaeth ddiddiwedd ganddo, roedd cwestiynau sylfaenol yn rhan ganolog o agwedd empirig Dylan at seicoleg arbrofol sef “Sut mae’r cyfranogwr arbrofol yn gweld y sefyllfa hon?” a’r anochel “Felly beth yw’r arbrawf nesaf?”. Roedd rhyw hiwmor unigryw yn amlwg yn nheitlau llawer o bapurau Dylan a hefyd ar enw’r model o’r cof tymor byr, oedd yn dwyn y teitl nodedig “O-OER”.

Fel yn achos Broadbent, roedd ei waith bob amser yn cael ei lywio gan bryderon cymhwysol a phroblemau “byd go iawn”, ac ar yr un pryd â hyn oll, roedd gan Dylan hefyd ddiddordeb mewn technoleg a'r ffactorau dynol sy'n rheoli sut mae’n cael ei defnyddio a'i defnyddioldeb. Gweithiodd Dylan ar nifer helaeth o brosiectau (yn aml roedd yn eu harwain hefyd) a hynny ar amryw o bynciau megis gwyliadwriaeth, straen, mesur llwyth gwaith, mesur hwyliau, amrywiad circadaidd, dylunio rhyngwyneb ar gyfer adnabod lleferydd, ymwybyddiaeth o sefyllfa, a dylunio larymau clywedol. Cydweithiodd ar amryw o brosiectau cymhwysol gyda noddwyr megis QinetiQ, GDUK, Digital Equipment Corporation, Eurocontrol, DRA, DERA, Dstl, a MoD. Roedd yn aelod o Bwyllgor Gwyddorau Dynol Cyngor yr Academi Gwyddor Data (DSA), a chyrff yn ymwneud â'r APRC.

Dyfarnwyd OBE i Dylan yn 2001 am gyfraniad ymchwil eithriadol i Wyddorau Amddiffyn ac roedd yn un o ychydig iawn o academyddion a dderbyniodd radd Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) pan yn ymchwilydd 'canol gyrfa'.

Yn 2003, fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Seicoleg. O dan ei arweiniad arbenigol bu i’r Ysgol Seicoleg gyrraedd yr ail safle yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – gan hawlio’r safle canol rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Bu i enw da a maint yr Ysgol Seicoleg barhau i dyfu, ac erbyn hyn mae hi’n croesawu dros 350 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn flynyddol.

Yn 2013, daeth Dylan yn Rhag Is-Ganghellor cyntaf Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Unwaith eto, bu i’w arweiniad a'i weledigaeth helpu i ysgogi'r Coleg a sicrhau newidiadau a datblygiadau cadarnhaol.

Yn ddiweddarach bu i Dylan ddychwelyd i’r Ysgol Seicoleg yn Uwch Athro Ymchwil i barhau â’i ymchwil o safon fyd-eang. Sicrhaodd Dylan dros £30 miliwn o gyllid ar draws mwy na 50 o grantiau, cyhoeddodd dros 350 o erthyglau mewn cyfnodolion (a llawer o fathau eraill o allbynnau), a goruchwyliodd bron i 50 o fyfyrwyr PhD; mae nifer helaeth ohonynt wedi cael gyrfaoedd hynod o lwyddiannus yn y byd academaidd, diwydiant a’r Llywodraeth.

Roedd yr Athro Jones yn allweddol i’r gwaith o greu’r Grŵp Ymchwil Rhagoriaeth i Ffactorau Dynol, gan sefydlu Prifysgol Caerdydd yn arweinydd ar gyfer ymchwil Ffactorau Dynol yn y DU. Roedd Dylan hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol Prifysgol Caerdydd.

Teyrngedau i'r Athro Dylan Jones

Cafodd Dylan effaith mor gadarnhaol ar filoedd lawer o bobl a bydd colled fawr ar ei ôl. Mae teyrngedau wedi bod yn cyrraedd o bob cwr o'r byd. Roedd yn academydd rhagorol ac yn ysbrydoliaeth i'r sawl y bu'n gweithio gyda nhw.

Yr Athro David Morrison (Prifysgol Murdoch): 'Roedd Dylan yn Gymro balch iawn ac rwy'n siŵr bod Cymru'n falch iawn ohono fo, fel rydw i’n gwybod mod i, ac rwy’n ei ystyried yn un o’m ffrindiau gorau a mwyaf ffyddlon.'

Dr Robyn Boyle (Macquarie University, Awstralia): 'Roedd taerineb Dylan fod cymdeithasu ac ymlacio yn y grŵp gyda’n gilydd, yr un mor bwysig (bron) â'r ymchwil ei hun, ac roedd hyn yn dangos ei allu aruthrol i fwynhau bywyd ac ysbrydoli llawenydd ym mywydau eraill.'

Yr Athro Jessica Ljungberg (LTU, Sweden): 'Mae fy nghalon wedi torri - dyn mor wych ac arbennig. Wnaeth e fyth roi'r gorau i ddawnsio; ac roedd y goleuni hwnnw yn ei lygaid o hyd, goleuni oedd yn ddiniwed ac yn chwareus.

Yr Athro Minoru Asada (Prifysgol Osaka) a Tatsu Inatani (Prifysgol Kyoto): 'Roedd Dylan bob amser yn gynnes ac yn berson eang ei feddwl. Roedd bob amser yn hael iawn, yn garedig, ac yn ysbrydoliaeth fawr iawn i ni.'

Yr Athro Murray Mayberry (Prifysgol Gorllewin Awstralia): ‘I mi, roedd Dylan yn eicon ym maes ymchwil cof tymor byr/cof gweithio yn y DU, yn gydweithredwr craff ac ysbrydoledig, yn westeiwr hael iawn ar ymweliadau â Chaerdydd, ac yn ddiddanwr a chomigwr heb ei ail, yn enwedig wrth weithio ar y cyd â’i ffrind gorau Bill’

Yr Athro Fabrice Parmentier (Prifysgol yr Ynysoedd Balearaidd): 'Lawer gwaith, mae ymwelwyr â'm swyddfa sy'n gweld ei lun yn gofyn i mi ai fe yw fy nhad (wedi'r cyfan, roedd gennym yr un steil gwallt). “Fy nhad academaidd” Rwyf bob amser yn ateb yn falch. Oherwydd dyna oedd Dylan i mi, ac i lawer o bobl eraill. Dyna fydd e am byth.'

Yr Athro Phil Beaman (Prifysgol Reading): 'Un o'm hatgofion mwyaf gwerthfawr o’r cyfnod ar ôl dilyn PhD o dan oruchwyliaeth Dylan yw bod academydd arall mewn cyfweliad swydd wedi dweud bod na arlliw o rywbeth “Caerdydd a Dylan Jones” amdana i”. Canmoliaeth yn wir.

Yr Athro Colin Riordan (Cyn Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd): Roedd Dylan yn gydweithiwr gwych ac yn gefn mawr i mi yn ystod fy mlynyddoedd cynnar yng Nghaerdydd, yn ogystal â bod yn ffrind hynod ddifyr a hyddysg. Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol ei fod yn ymchwilydd rhagorol, ac yn wir, fe barhaodd i ymgymryd ag ymchwil yn rhan-amser ar ôl rhoi'r gorau i'w amrywiol gyfrifoldebau. Gwn fy mod yn siarad ar ran holl aelodau presennol Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, yn ogystal â’r cyn-aelodau, wrth ddweud ein bod yn cydymdeimlo’n fawr â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Dylan, a byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr.’

Carolyn Donoghue a Richard Palmer (Prifysgol Caerdydd): 'Cyflwynodd Dylan a Mags opera i ni ac, er nad wyf wedi fy argyhoeddi o hyd, byddaf yn cyfaddef ei fod yn addysg! Mae gen i Dylan i’w feio hefyd am fy safonau gwin cynyddol uchel, fy mwynhad newydd o siampên, ac effaith hynny ar fy mhoced.

Yr Athro Phillip Morgan (Prifysgol Caerdydd): 'Dylan, roeddet ti, ac fe fyddi di bob amser yn arwr i mi ac i lawer, fy nhad academaidd i (yn ogystal ag eraill) ac un o fy ffrindiau gorau oll. Mae arwr wedi mynd, a bydd yn cael ei golli gan lawer iawn, iawn o bobl, ond chaiff e fyth ei anghofio.'