Olaoluwa “Laolu” Abdulrahman Alatise
Bu farw Olaoluwa “Laolu” Abdulrahman Alatise ar y 7fed o Fedi 2023 yn ei gartref yn Nhreganna, Caerdydd.
Fe'i ganed ym mis Hydref 1995 yn nhref Ijebu-Ode, Nigeria. Cafodd blentyndod anodd, gan brofi bwlio didrugaredd yn yr ysgol oherwydd ei wrywdod anhraddodiadol. Er bod y cyfnod hwn wedi gadael creithiau a gymerodd amser maith i wella, mae ffrindiau yn credu ei fod yn rhan ffurfiannol o allu aruthrol Laolu am empathi ac roedd yn rhan o'r hyn a'i gwnaeth yn berson mor graff a gofalgar. Bydd yn cael ei gofio fel ffrind cefnogol, cariadus, brawd a mab, cydweithiwr gwerthfawr, awdur deallus a chraff a hanesydd radical, ac actifydd gwleidyddol angerddol.
Symudodd i Gymru ym mis Medi 2012 i ddechrau ar ei astudiaethau israddedig a graddiodd gyda baglor mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ar frig ei garfan yn 2018. Roedd ei ddarlithwyr yn ei adnabod fel meddyliwr craff, gwreiddiol a myfyriwr hynod weithgar a gafodd (yn anarferol) raddau o'r radd flaenaf ym mron pob un o'i ddosbarthiadau israddedig. Tra'n fyfyriwr, ac am gyfnod wedi hynny, bu'n gweithio yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd ei gariad at ddarllen, a'i chwilfrydedd deallusol eang, yn parhau i fod yn rhan fawr o'i fywyd ar ôl graddio. Roedd ganddo bob amser lyfrau o’i amgylch, roedd yn ddysgwr angerddol, ac wrth ei fodd yn trafod syniadau. Ar ôl graddio, bu'n gweithio i'r elusen Diverse Cymru gan weithio i wella iechyd meddwl ymhlith grwpiau lleiafrifol o ran hil yng Nghaerdydd. Ar ôl hyn, cymerodd swydd fel Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i Clwstwr yn uned economi greadigol Prifysgol Caerdydd - Caerdydd Creadigol, rôl a oedd yn caniatáu iddo weithredu ymhellach ar ei ymrwymiad gwleidyddol i wrth-hiliaeth. Gweithiodd Laolu yn agos gyda'r tîm i ymestyn eu cyrhaeddiad i wahanol gymunedau ledled y rhanbarth, a chefnogodd lawer o bobl anhygoel, gan fod yn dosturiol bob amser, i wneud gwaith anhygoel ac arloesol. Ar adeg ei farwolaeth, roedd yn gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol gyda Media Cymru Prifysgol Caerdydd, sefydliad sy'n gyfrifol am hyrwyddo twf yn y cyfryngau a diwydiannau creadigol Cymru. Roedd cynhesrwydd naturiol a gallu Laolu i feithrin perthnasoedd cryf yn amlwg yn ei rôl fel Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Cynorthwyol. Roedd yn credu'n gryf y dylai Media Cymru gynnig lle i unigolion oedd yn newydd i'r sector ddysgu a rhannu syniadau mawr ac roedd wir yn gwerthfawrogi cwrdd â phobl a chlywed eu straeon. Roedd yn gydweithiwr annwyl a oedd bob amser yn cymryd amser i wrando a rhoi ymatebion tosturiol, gan hyrwyddo gwaith eraill. Roedd bob amser yn galon unrhyw gasgliad.
Nid oes modd ysgrifennu am Laolu heb grybwyll ei synnwyr ffasiwn ardderchog a phrin. Mae ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn aml yn ei ddisgrifio'n fel y person sydd yn gwisgo orau o bawb maen nhw’n eu hadnabod. Ond nid yw disgrifiadau o’r fath yn cyfleu’n llawn y rôl yr oedd dillad yn chwarae yn y ffordd unigryw, gwahaniaethol, bendigedig a hollol fentrus yr oedd yn mynegi ei hun. Roedd hyn, ynghyd â'i harddwch corfforol trawiadol a'i osgo o hunan-hyder a herfeiddiwch, yn golygu ei fod yn troi pennau'n rheolaidd ac yn denu sylwadau gan ddieithriaid (yn mynegi cymeradwyaeth a rhagfarn). Ymhlith ei ffrindiau a'i gydweithwyr, cafodd ei werthfawrogi'n eang fel model rôl cadarnhaol a oedd wedi ymladd yn galed ac wedi dysgu byw yn falch, yn agored, a heb gywilydd. Roedd Laolu yn ystyried ei hun fel amddiffynwr o bobl ar gyrion cymdeithas a phobl wedi’u gormesu, ar ôl iddo ei hun brofi gwahaniaethu amlwg ac effeithiau rhagfarn wedi’i fewnoli.
Roedd Laolu yn Fwslim ac roedd yn falch iawn o'i hunaniaeth Yoruba, yn aml yn rhannu straeon gyda ffrindiau am ei ddiwylliant nodedig. Roedd ganddo berthynas gymhleth ac weithiau anesmwyth gyda'i ffydd. Cydnabyddodd, ac yr oedd yn feirniadol o’r anoddefgarwch cyffredin yn ei grefydd, ond cafodd hefyd gysur mawr ynddi, yn enwedig yn yr ymdeimlad o gysylltiad a roddodd iddo gyda'i deulu. Fe wnaeth o jocian unwaith pan holai aelodau Mwslimaidd o’i deulu os oedd wedi bod yn mynd i’r Mosg y byddai'n ateb, “na, ond rydw i wedi bod yn darllen gwerslyfr anhygoel am Islam”. Roedd yn amddiffynwr brwd o bobl Fwslimaidd yn erbyn Islamoffobia, hiliaeth, a gwahaniaethu a oedd yn gwaethygu yn y DU ac yn fyd-eang.
Cymerodd ran mewn bywyd cyhoeddus yng Nghaerdydd, Cymru, a'r DU fel actifydd, sylwebydd, ac awdur, ond nid oedd ei berthynas â'i gartref mabwysiedig byth yn syml na heb feirniadaeth. Roedd ganddo lygad craff am adnabod rhagrith ac roedd yn aml yn ffraeth ac yn ddoniol yn ei feirniadaeth. Yn ei wleidyddiaeth, roedd yn llais aden chwith huawdl, angerddol, a deallus ac yn ymgyrchydd dros achosion gwrth-hiliaeth, cefnogi mudwyr, ffeministiaeth, a hawliau cwiar yng Nghymru a thu hwnt. Roedd yn gefnogwr lleisiol o hawliau pobl draws, yn gynghreiriad angerddol i'r gymuned draws yng Nghaerdydd, gwirfoddolodd i Stonewall Cymru, ac roedd yn siaradwr gwadd mewn nifer o ddigwyddiadau Pride a gair llafar cwiar yng Nghymru. Roedd dealltwriaeth feirniadol dreiddiol Laolu o wleidyddiaeth ddiwylliannol y DU, Cymru a Chaerdydd, wedi'i lywio gan ei brofiadau o ormesau croestoriadol, yn ei wneud yn feirniad llym o wleidyddion Ceidwadol y DU, yn enwedig o ran eu triniaeth o'r dosbarth gweithiol, pobl ddu a brown, mudwyr, a’u gwyliadwriaeth o Fwslimiaid ac actifyddion o dan y rhaglen PREVENT. Roedd hefyd yn frwd yn ei anhoffter tuag at y cenedlaetholwyr Cymreig hynny sy'n ystyried eu hunain yn bobl sydd wedi'u gwladychu tra'n anwybyddu rhan Cymru mewn gwladychiaeth Brydeinig, yn ogystal â'r hiliaeth strwythurol a'r arferion gwaharddol a nodwyd fel rhai sy'n dal i fod yn gyffredin ym mywyd cyhoeddus, sefydliadau a mudiadau cymdeithasol Cymru.
Yn hoff o sylwad yr awdur a'r actifydd ffeministaidd du Angela Davies, “rydym yn byw mewn cymdeithas o anghofio, cymdeithas sy'n dibynnu ar amnesia cyhoeddus”, roedd Laolu hefyd yn hanesydd diwylliannol radical medrus, ac yn gyd-sylfaenydd cydweithfa yn Ne Cymru a wnaeth ymchwilio ac adrodd ar hanes terfysgoedd hil 1919 yng Nghaerdydd, sy’n aml yn cael ei anghofio, yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y digwyddiad. Tynnodd y prosiect ar gofnodion hanesyddol sylfaenol megis papurau newydd a thystiolaeth gan ddisgynyddion y rhai a oedd yn rhan o’r digwyddiad. Roedd yn adrodd hanes y terfysgoedd mewn amser real ar Twitter o safbwynt tyst dychmygol yn crwydro strydoedd Caerdydd. Gan dderbyn clod gan gynulleidfa eang leol a chenedlaethol, yn ogystal ag academyddion, sefydliadau fel Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Archif Genedlaethol Cymru, a'r cyfryngau newyddion Cymraeg, fe wnaeth gysylltiadau ysgytwol rhwng hiliaeth hanesyddol a chyfoes yng nghymdeithas Cymru. Fel rhan o'r un gydweithfa, gwnaeth waith pwysig hefyd yn canfod ac adrodd straeon pobl cwiar o liw sydd heb eu cynrychioli yng Nghymru, gan gyfathrebu amdanynt mewn gweithdai cyfranogol.
Mae un o'n ser ieuainc mwyaf disglair wedi ei diffodd yn rhy fuan ac mae’r nos yn dywyllach o’i golli. Mae pob un o'r cymunedau yr oedd yn rhan ohonynt yn teimlo poen ei absenoldeb. Ni fydd ei gyfraniad at wneud ein byd yn lle mwy cyfartal a pharod i dderbyn byth yn cael ei wyrdroi. Gorffwys mewn grym, Laolu Alatise.
Dr Andy Williams a'r Athro Justin Lewis
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant