Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Bydd LINC yn ymchwilio sut mae genynnau, cyflyrau niwroddatblygiadol, amgylchedd byw pobl, a digwyddiadau bywyd yn dylanwadu ar y cysylltiad rhwng cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol ar hyd ein hoes. Bydd hyn yn helpu llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau i ddatblygu ymyriadau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u targedu’n well.

Pam fod angen yr astudiaeth hon

Mae dros hanner y boblogaeth dros 65 oed bellach yn byw gyda chyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol hirdymor lluosog. Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae’r gyfran hon yn siŵr o gynyddu.

Mae nifer o sefydliadau, megis Sefydliad Iechyd y Byd ac Academi’r Gwyddorau Meddygol wedi nodi cyflyrau hirdymor lluosog fel un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu gwasanaethau iechyd byd-eang nawr ac yn y dyfodol.

Yn aml, mae gan bobl â chyflyrau iechyd lluosog anghenion gofal neu driniaeth mwy cymhleth gan fod angen ystyried eu hamrywiol gyflyrau gyda’i gilydd, yn hytrach nag ar wahân. O ganlyniad, mae’n aml yn anodd iddynt sicrhau’r gofal gorau, gwelir bod ganddynt ansawdd bywyd is na phobl ag un cyflwr yn unig a cheir risg uwch o ddisgwyliad oes is.

Er bod byw gyda chyflyrau iechyd lluosog yn aml yn ganlyniad i heneiddio, mewn rhai achosion gall hefyd ddechrau yn ystod plentyndod. Er enghraifft, mae cyflyrau niwroddatblygiadol (fel anabledd deallusol ac awtistiaeth) a ffactorau amgylcheddol plant (tlodi, cam-drin corfforol neu rywiol) yn ffactorau risg hysbys ar gyfer datblygu cyflyrau hirdymor lluosog yn ddiweddarach mewn bywyd.

two middle and older aged women embracing with their faces side by side

Amlafiachedd

Gwelir math cyffredin, a difrifol, o gyflwr hirdymor lluosog rhwng cyflyrau a elwir yn gyflyrau mewnoli (iselder a gorbryder) a chyflyrau cardiometabolig (fel clefyd y galon a diabetes).

Canfuwyd bod tua 80% o bobl â chyflyrau mewnoli hefyd yn datblygu cyflyrau cardiometabolig. A gwelir bod tua 40% o bobl ag anhwylderau cardiofasgwlaidd yn datblygu anhwylder mewnoli. Mae’r math hwn o amlafiachedd hefyd yn fwy tebygol mewn pobl o dras De Asiaidd.

Mae anhwylderau mewnoli a chardiometabolig yn tueddu i ddechrau yn ystod plentyndod. Er enghraifft, fe wyddom fod rhai cyflyrau sy’n dechrau’n gynnar mewn bywyd fel cyflyrau niwroddatblygiadol (megis anabledd deallusol neu awtistiaeth) yn cynyddu’r risg o ddatblygu’r cyflyrau hyn. Gall amgylchedd plentyn hefyd gynyddu’r risg trwy, er enghraifft, brofiadau dirdynnol fel tlodi a cham-drin corfforol neu rywiol. Yn olaf, mae rhai pobl hefyd yn cael eu geni gyda mwy o risg genetig o anhwylderau mewnoli, cardiometabolig a/neu niwroddatblygiadol nag eraill.

Ond dydym ni ddim yn deall yn union sut mae genynnau, cyflyrau niwroddatblygiadol a risgiau amgylcheddol cynnar yn dylanwadu ar ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol hirdymor lluosog. Bydd LINC yn defnyddio arbenigwyr ledled y DU ac Ewrop i archwilio sut y gall y ffactorau hyn ddylanwadu ar y risg o ddatblygu’r math hwn o gyflwr hirdymor lluosog.

Ein nodau

Yr hyn sy’n allweddol i LINC yw ei fod yn brosiect cydweithredol, sy’n elwa ar arbenigedd meddygol ac ymchwil mewn nifer o sefydliadau ymchwil. Ein hamcanion yw deall yn well pam ei bod mor gyffredin gweld cyflyrau mewnoli (e.e. iselder a gorbryder) a chardiometabolig (e.e. clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2) yn cyd-ddigwydd, a rhai o’r ffactorau risg dan sylw. Yn gryno byddwn yn:

  1. Ymchwilio sut mae’n datblygu ar wahanol gyfnodau mewn bywyd (h.y. plentyndod, oedolyn ifanc, oedolyn hŷn).
  2. Archwilio’r ffactorau risg genetig, niwroddatblygiadol ac amgylcheddol a all effeithio ar ei ddatblygiad.
  3. Archwilio gwahaniaethau rhyw a gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig a all hefyd effeithio ar ddatblygiad y math hwn o gyflwr hirdymor lluosog.
  4. Cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid drwy gydol y prosiect er mwyn helpu i sicrhau bod ein canfyddiadau yn arwain at newid ystyrlon o ran polisi a darpariaeth gwasanaethau (e.e. iechyd, addysg, gofal cymdeithasol).

Bydd yr hyn a ddysgwn yn bwysig ar gyfer atal y math hwn o gyflwr hirdymor lluosog yn ddiweddarach mewn bywyd trwy adnabod plant sydd mewn perygl oherwydd geneteg, eu rhyw, rhesymau ethnig neu economaidd.

Sut byddwn yn ymchwilio i hyn?

Er mwyn archwilio’r ffactorau risg ar gyfer y math hwn o gyflwr hirdymor lluosog mae angen i ni fanteisio ar astudiaethau presennol o bobl, o bob oed, y mae eu hiechyd wedi’i gofnodi dros flynyddoedd lawer (a elwir yn astudiaeth hydredol).

Mae angen astudiaethau ar raddfa fawr lle mae gwybodaeth fanwl am ffactorau iechyd ac amgylcheddol wedi’i chasglu dro ar ôl tro, a lle mae gwybodaeth enetig y cyfranogwyr wedi’i chasglu. Bydd LINC yn tynnu ar bum astudiaeth sydd wedi dilyn iechyd niferoedd mawr o blant, glasoed ac oedolion dros amser:

Drwy gymhwyso technegau ystadegol uwch i’r data hwn, gallwn weld pa gyflyrau sy’n digwydd gyda’i gilydd. Gelwir hyn yn glwstwr clefyd. Yna gallwn ymchwilio i weld a yw’r clystyrau hyn yn newid rhwng plentyndod a bywyd diweddarach.  Gan fod gan y plant a’r oedolion a gymerodd ran yn yr astudiaethau hyn gefndiroedd ethnig ac economaidd gwahanol, gallwn hefyd edrych ar sut mae clystyrau clefyd gwahanol grwpiau mewn cymdeithas yn wahanol. Yn olaf, mae technegau ystadegol hefyd yn ein galluogi i nodi ffactorau risg genetig ac amgylcheddol sy’n effeithio ar sut mae clystyrau clefyd yn newid dros amser. Yna gellir defnyddio’r wybodaeth hon i nodi pa bobl sy’n fwy tebygol o ddatblygu’r math hwn o gyflwr iechyd hirdymor lluosog.

Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar lunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau i leihau’r nifer o bobl sy’n byw gyda’r math hwn o gyflwr iechyd lluosog hirdymor drwy ymyriadau addysg ac iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u targedu.