Ewch i’r prif gynnwys

Babanod

Nodau

  • Cynnig diogelwch, cynhesrwydd, cariad ac anwyldeb 
  • Diwallu anghenion sylfaenol y baban unigol, bwydo, newid, cysgu ac ati
  • Cynnig amrywiaeth o weithgareddau ysgogol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad gweledol, clywedol a cyffyrddol babanod
  • Cynorthwyo datblygiad cymdeithasol, corfforol ac emosiynol 
  • Rhoi amgylchedd lle gall pob plentyn ddatblygu ymdeimlad o ddiogelwch, cynhesrwydd, cariad ac anwyldeb
  • Gwneud i bob plentyn deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi
  • Rhoi cyfleoedd cyfartal i bob plentyn
  • Cynnig cyfleoedd i blant fod yn greadigol a'u hamddiffyn a'u goruchwylio'n briodol ar yr un pryd
  • Defnyddio iaith i gryfhau a rhoi ystyr i bopeth yr ydym yn ei wneud
  •  Ymgyfarwyddo plant ag amser grwpiau bychain, canu, edrych ar lyfrau, ac ati

Mae oedran y plant yn yr adran hon yn amrywio o 10 wythnos i 2 oed. Fel arfer, mae babanod yn barod i symud ymlaen i'r adran nesaf pan maent yn gallu cerdded ac yn barod yn emosiynol ac yn gymdeithasol i ryngweithio â phlant hŷn ac yn teimlo'n ddiogel gyda nhw.

Gwneir pob ymdrech i gadw at ddymuniadau'r rhieni mewn cysylltiad â phob elfen o anghenion eu plant. Croesewir rhieni unrhyw adeg.

Rhaid i'r holl boteli fod wedi'u paratoi, ac mae modd dod â bwyd solet. Bydd y Feithrinfa yn darparu cinio a gaiff ei baratoi'n addas os oes angen. Codir amdano ar wahân i'r ffioedd. Bydd dillad sbâr ar gyfer digwyddiadau annisgwyl yn cael eu cadw'n ddiogel ar fachyn penodol eich plentyn.

Mae'r adran yn cynnwys dwy ystafell gyfagos lle caiff babanod iau eu cadw'n ddiogel a'r babanod hŷn rwydd hynt i gropian a cherdded yn ddirwystr.

Yn anad dim, mae'r ddwy ystafell yn cynnig gofod, cysur a diogelwch. Maent wedi'u gosod i annog y plant i wneud defnydd llawn o'u holl sgiliau mewn amgylchedd braf, cyfeillgar a gofalgar drwy fanteisio'n llawn ar ddewis eang o deganau.

Ar wahân i deganau ac offer arferol, rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau gydag eitemau bob dydd fel sosbenni a llwyau, carpion papur a blychau cardfwrdd, tywod, dŵr, paent a lliwiau.

Rhoddir sylw personol mor aml â phosibl, yn enwedig wrth fwydo a newid cewynnau.

Mae ystafell ar wahân lle mae gan bob baban grud unigol. Mae gan yr ystafell hon ddyfais monitro babanod sydd ymlaen drwy'r amser, ac mae'r staff yn cadw llygad yn rheolaidd hefyd.

Bydd y plant yn dechrau gwneud ffrindiau, yn dysgu rhannu teganau ac yn rhyngweithio â'u cyfoedion. Rydym yn annog y plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffredin megis helpu i dacluso'r teganau y maent wedi chwarae gyda nhw.

Erbyn yr oed yma, byddant yn dechrau adnabod gwrthrychau, lluniau ac yn datblygu ymwybyddiaeth o bethau maent yn eu hoffi a'u cas bethau. Drwy gysylltu geiriau, storïau, caneuon a rhigymau, rydym yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth y plant o'r byd o'u cwmpas ac yn eu hannog i ddatblygu eu iaith, eu gwybodaeth a'u hyder.