Ewch i’r prif gynnwys

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghaerdydd

Ochr yn ochr â chyfrannu at y thema ehangach o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y DU, mae’r prosiect Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ehangu'r diddordeb parhaus mewn hanes cyhoeddus yng Nghaerdydd.

Welsh Soldiers
Welsh Soldiers by Muirhead Bone

Mae digwyddiadau ac adnoddau cysylltiedig yn cynnwys:

  • Uffern Rhyfel: Brwydr Coed Mametz a'r Celfyddydau, arddangosiad yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru sy'n archwilio'r celf, barddoniaeth ac ysgrifennu gan y rhai a welodd y frwydr yn uniongyrchol ac eraill sydd wedi ymateb iddi ers hynny. Ar agor o'r 30 Ebrill i 4 Medi.
  • Mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru, In Parenthesis, gan Iain Bell wedi'i selio ar gerdd epig o'r Rhyfel Byd Cyntag gan y bardd, yr artist a'r ysgrifennwr o Gymru, David Jones. Bydd perfformiadau o'r opera yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar y 13 Mai, 21 Mai a'r 3 Mehefin.
  • Ar y canmlwyddiant o'r diwrnod cyntaf o frwydr y Somme, mae Opera Cenedlaethol Cymru y BBC yn cyflwyno'r Somme, cerddoriaeth gan gyfansoddwyr a frwydrodd neu bu farw yn y frwydr a gweithiau er cof amdanynt. Bydd y perfformiad yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd ar y 1 Gorffennaf 2016.
  • Mae'r Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (Caerdydd) yn gweithio ar brosiect pedair blynedd o'r enw Cymru dros Heddwch/ Wales for Peace gyda'r nod i fynd i'r afael â'r cwestiwn: yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?
  • Mae Amgueddfa'r Rhes Flaen yng Nghastell Caerdydd yn rhedeg prosiect o'r enw Caerdydd yn Cofio i gadw'r eitemau hanesyddol ynglŷn â'r Rhyfel Byd Cyntaf  yng Nghaerdydd yn ddiogel.
  • Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi creu cronfa ddata digidol o eitemau o'u casgliadau ar y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys archifau, lluniau a gwrthrychau.