Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan y Gyfraith a Chrefydd

Sefydlwyd Canolfan y Gyfraith a Chrefydd ym 1998. Mae’n dod â chymuned o ysgolheigion ac ymarferwyr ynghyd i gynnal ymchwil ryngddisgyblaethol i gyfraith grefyddol a gwladwriaethol mewn amrywiaeth o gyd-destunau damcaniaethol.

Mae Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn ymchwilio i theori ac ymarfer cyfraith y wladwriaeth, cyfraith grefyddol, a’u cyd-destunau hanesyddol, diwinyddol, cymdeithasol, eciwmenaidd a chymharol. Rydym yn cydweithio’n agos â Chymdeithas y Gyfraith Eglwysig, ac mae ein haelodau’n cynnwys academyddion, ymarferwyr cyfreithiol, ac aelodau o’r offeiriadaeth.

Mae 2021 yn nodi 30 mlynedd ers lansio LLM Cyfraith Eglwysig - y radd gyntaf o’i math yn y DU ers y Diwygiad Protestannaidd.

Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn ymchwilio i gysyniadau crefyddol a chyfreithiol o ran hanes cyfreithiol, diwinyddiaeth, a chymdeithaseg crefydd.

Mae aelodau'r Ganolfan yn ymwneud ag ymchwil mewn sawl maes cyfreithiol a chrefyddol.

Ar sail natur gydweithredol llawer o'i gwaith, yn enwedig drwy ei Rhwydweithiau, cynhelir gweithgareddau'r Ganolfan gan ei Chymrodorion ymchwil.

Agwedd allweddol ar waith y Ganolfan yw dod â phobl ynghyd i astudio'r gyfraith a chrefydd fel modd o gael mwy o ddealltwriaeth ecwmenaidd a rhyng-ffydd. 

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig LLM mewn Cyfraith Eglwysig yn ogystal â nifer o gyfleoedd ôl-raddedig eraill.