Ewch i’r prif gynnwys

Dangoswyd ein ffilm raddio yn Stadiwm Principality yn ystod y seremonïau Graddio diweddar. (Nid ydych wedi ei weld eto? Gwyliwch ef nawr.) Mae’n cynnwys nifer o gameos gan aelodau o’n cymuned o gynfyfyrwyr, yn ogystal â staff a myfyrwyr.

Rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar un neu ddau o’r straeon difyr y tu ôl i sêr y sgrîn fawr.

Gwyliwch y ffilm raddio

Liz Clements (BA 2017)

Liz Clements, newyddiadurwr Newyddion BBC Cymru a myfyriwr graddedig o Gaerdydd oedd y llefarydd yn serennu yn ein ffilm raddio.

Cyfrannodd Liz at y ffilm, gan asio’r Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd yn ein sgript a gomisiynwyd yn arbennig.

Daeth Liz i seremoni Graddedigion 2022 i weld y ffilm ar y sgrîn fawr, ac ymateb y graddedigion a’u teuluoedd yn y stondinau.

Dywedodd Liz wrthon ni: “Roedd hi’n daith hel atgofion, ac roeddwn i’n teimlo’n hiraethus a hapus wrth edrych yn ôl ar fywyd yn y Brifysgol trwy’r gerdd hyfryd hon. Roedd yn bleser ac yn fraint cael bod yn rhan o’r broses.”

Dr Numair Masud (PhD 2021)

Daeth Numair, Uwch Dechnegydd Ymchwil, i Gaerdydd i astudio ar gyfer ei PhD yn y Biowyddorau ac roedd yn un o’r graddedigion a gafodd sylw yn y ffilm, gan ddathlu eiliad allweddol o gyflawniad wrth iddo ymddangos ar y sgrîn fawr.

Yn ogystal â’i waith yn wyddonydd, mae Numair hefyd yn ymgyrchydd LHDTC+, ac ochr yn ochr â Vishal Gaikwad, mae’n helpu i redeg y grŵp actifydd Glitter Cymru ar ôl sylwi ar ddiffyg lleoedd ar gyfer lleiafrifoedd ethnig LHDTC+.

Wrth astudio ar gyfer ei PhD, llwyddodd Numair i hawlio lloches, gan fethu â dychwelyd i’w wlad enedigol ym Mhacistan rhag ofn erledigaeth oherwydd ei rywioldeb.

Darllenwch ragor am stori Numair

Jane Goodfellow (BScEcon 1991)

Ar ôl graddio ym 1991, gwnaeth Jane MSc cyn dychwelyd i Gaerdydd i weithio yng Ngwasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol.

Nawr, bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, Jane yw Pennaeth Dyfodol Myfyrwyr. Mae hi’n goruchwylio gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Caerdydd wrth iddynt baratoi ar gyfer byd gwaith a bywyd ar ôl y brifysgol.

Sanjiv Vedi (BSc 1984)

Ar ôl graddio o’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym 1984, mae Sanjiv wedi gweithio mewn sawl rôl amlwg yn Llywodraeth Cymru.

Ymunodd â’n ffilm i gynrychioli ein cynfyfyrwyr (credwch neu beidio) o 40 mlynedd yn ôl ac mae’n rhan o’r pwyllgor cynllunio ar gyfer aduniad cynfyfyrwyr o’r 80au ym mis Medi.

Gwahoddir cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rhai o UWIST, Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a ddechreuodd neu a gwblhaodd eu hastudiaethau rhwng 1980-1989, i droi’r cloc yn ôl ar gyfer “Noson 80au i Ailgroesawu Myfyrwyr” ar 10 Medi.

Mae tocynnau ar werth nawr

Ali Shaheed (BSc 2022)

O’n myfyriwr graddedig hynaf, i’r un mwyaf newydd yn ein ffilm. Gorffennodd Ali ei BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn ddiweddar ar ôl dod i astudio i Gymru o Bacistan.

Cyn ei ddiwrnod graddio go iawn, cafodd Ali gyfle i wisgo ei wisg graddio ar gyfer y ffilmio. Mae Ali wedi bod yn fyfyriwr brwdfrydig drwy gydol ei gyfnod yng Nghaerdydd.

Ymunodd â Thîm Croesawu’r brifysgol i gyfarch myfyrwyr newydd ar ei ddiwrnod cyntaf yn y ddinas!

Huw Edwards (BA 1993, Anrh 2005)

Mae Huw Edwards yn adnabyddus ac yn brif gyflwynydd newyddion y BBC. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd ym 1993 gyda gradd mewn Ffrangeg ac Eidaleg.

Cafodd ei gydnabod gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2005, ac mae wedi cefnogi’r brifysgol ers tro byd. Huw oedd yn traddodi i Raddedigion 2021 yn eu seremoni yn Stadiwm y Principality.

Roedd eisoes wedi rhannu ei neges o longyfarchiadau a chyngor â nhw yn ystod eu dathliadau rhithiol y llynedd.

Gwyliwch araith Huw i Raddedigion 2021

Vaughan Gething (LLB 2001)

Vaughan Gething AS ydy Gweinidog yr Economi, a bu gynt yn Weinidog Iechyd drwy ran helaeth o’r pandemig.

Ef oedd Llywydd du cyntaf UCM Cymru a Llywydd ieuengaf Cyngres Undebau Llafur Cymru.

Rhagor o wybodaeth am gyfnod Vaughan yng Nghaerdydd

L E M F R E C K

Artist a chynhyrchydd Cymreig sy’n hanu o Gasnewydd yw Lemarl Freckleton (PgCert 2016) – sy'n adnabyddus fel L E M F R E C K.

Ers graddio yn 2016 mae wedi dod yn un o brif artistiaid rap y sin gerddoriaeth Gymreig, ac mae i’w glywed ar lwyfannau megis BBC Radio 1Xtra yn rheolaidd.

Mae hefyd yn gyfarwyddwr creadigol i Noctown Collective, llwyfan creadigol sy’n cwmpasu cerddoriaeth, newyddiaduraeth, ffasiwn, a ffilm.

Jessica Oliver (BSc 2014) a Charlotte Harris (BA 2013): Team Wild Waves

Jessica Oliver a Charlotte Harris yw Tîm ‘Wild Waves’. Mae’r ddwy wedi gosod record byd newydd ar gyfer rhwyfo ar draws Cefnfor Iwerydd yn 2022.

Er nad oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o rwyfo, Jess a Charlotte oedd y ddwy fenyw cyflymaf i rwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor Iwerydd, camp a gymerodd 45 diwrnod, 7 awr, a 25 munud.

Cyfarfu’r pâr ym Mhrifysgol Caerdydd 10 mlynedd yn ôl pan ymunodd Jess, a astudiodd y Gwyddorau Biofeddygol, a Charlotte, a astudiodd Hanes, â’r Clwb Hoci.

Rhagor o wybodaeth am lwyddiant Tîm ‘Wild Waves’

Richard Browning (BSc 2001)

Richard Browning yw sylfaenydd a phrif beilot profi Gravity Industries, y cwmni sy’n dylunio ac yn creu ei ddyfais unigryw, y Daedalus Flight Pack.

Dyfeisiodd Browning – myfyriwr graddedig mewn Daeareg Fforio – y “siwt jet” a oedd yn un o ddyfeisiadau gorau 2018 yn ôl cylchgrawn Time.

Cefnogwch ein graddedigion mwyaf newydd

Roedd ein ffilm graddio yn dathlu graddedigion 2020, 2021 a 2022, gan eu croesawu i gymuned cynfyfyrwyr Caerdydd.

Gallwch gefnogi ein graddedigion mwyaf newydd drwy ymuno â’n platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr, Cysylltiad Caerdydd. Mae’n gyflym ac yn hawdd cofrestru a gosod eich proffil i ddangos eich bod yn barod i helpu drwy ateb cwestiynau, gwneud cyflwyniadau, cynnig interniaethau neu fentora.

Cofrestrwch i gefnogi ein graddedigion mwyaf newydd heddiw