Ewch i’r prif gynnwys

Cynigiwch interniaeth neu leoliad gwaith

Manteisiwch ar dalent, angerdd a syniadau y gall ein myfyrwyr eu cynnig i’ch sefydliad a chyflogi arweinwyr yfory heddiw.

Mae cyfleoedd yn y gweithle yn gallu para unrhyw hyd rhwng pythefnos a blwyddyn, gyda sefydliadau o bob maint, a gallen nhw ddigwydd unrhyw le yn y byd. Llenwch ein ffurflen ar-lein i fynegi eich diddordeb.

Holl wasanaethau asiantaeth, ond heb y gost

Mae ein tîm yn ddolen gyswllt rhwng cyflogwyr a myfyrwyr er mwyn rheoli'r broses o drefnu lleoliadau ar eich rhan, gan arbed eich amser ar ddisgrifiadau swydd a llunio rhestr fer.

Mae cyfleoedd yn amrywio o leoliadau tymor-byr, interniaethau haf, swyddi blwyddyn neu brosiectau busnes byw, ac rydym yn gweithio gyda holl gyflogwyr o bob maint o BBaChau i recriwtwyr rhyngwladol mawr.

Rwy’n credu ei bod yn hanfodol annog cynfyfyrwyr i gynnig interniaethau – fel gwaith ystyrlon, cyflogedig. Mae'n ein cysylltu â chenedlaethau eraill, yn cadw syniadau yn ffres, yn herio ein ffordd o weithio, yn ein hatgoffa pam yr ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae’n sicr wedi newid y ffordd rwy'n gweithio gyda phobl. Mae pob un o'r tri intern wedi dysgu gymaint i mi wrth gydweithio â nhw, a byddwn yn argymell unrhyw un i ddilyn y rhaglen mewn amrantiad.

Oliver Townsend (BSc 2011), Rheolwr Polisïau a Materion Allanol, Cymorth Cymru

Sut mae'n gweithio

  1. Llenwch ein ffurflen gais ar-lein a bydd aelod o’r tîm cysylltiadau cynfyfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod gofynion pellach.
  2. Creu manyleb swydd a threfnu dyddiad y cyfweliad.
  3. Hysbysebu'r swydd i fyfyrwyr drwy Gyfrif Gyrfaoedd y myfyrwyr.
  4. Ceisiadau’n cael eu rhoi ar restr fer a'u hanfon atoch.
  5. Y cyflogwr yn cyfweld ac yn penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.

Cynnig cyfle yn y gweithle

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gwirfoddoli, cysylltwch â ni:

Cysylltiadau Datblygu a Chynfyfyrwyr