Ewch i’r prif gynnwys

Dod o hyd i gyfarpar

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfarpar neu feddalwedd benodol i ddiwallu eich anghenion ymchwil.

Mae ein hadnoddau’n cynnwys y canlynol:

  • clwstwr cyfrifiadurol mawr
  • lletya peiriannau rhithwir
  • cyfleuster storio data hyblyg.

Os oes gennych ofyniad na allwn ei hwyluso mae'n bosibl y byddwn ni'n gallu cynnig cymorth a chyngor o hyd o ran caffael yr hyn sydd ei angen arnoch.

Gallwn roi cyngor i chi ynghylch y canlynol:

  • y cyfarpar diweddaraf
  • meincnodi
  • negodi pris
  • addasrwydd at y diben
  • sganio’r hyn sydd ar y gorwel am y datrysiadau diweddaraf i ddiwallu eich anghenion.

Efallai gallwn argymell darparwyr gwasanaeth cyfrifiadura ymchwil uwch eraill hefyd, gan gynnwys cyfleusterau cyfrifiadura cenedlaethol o'r radd flaenaf a rhoi cyngor ar weithdrefnau ar gyfer llogi neu ddefnyddio eu hadnoddau.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig:

Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil