Charlotte Stephenson
Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- stephensoncj1@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4953
- 21-23 Ffordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG
Trosolwg
Charlotte yw Rheolwr Datblygu Busnes yr Uned DPP ac mae’n gyfrifol am Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Mae Charlotte yn gweithio gydag ysgolion academaidd i wneud yn siŵr bod eu syniadau ac amcanion DPP yn dwyn ffrwyth. Mae enghreifftiau o DPP blaenorol yn cynnwys cyrsiau byr wyneb yn wyneb, cyrsiau rhyngwladol ar-lein, cyrsiau pwrpasol i sefydliadau unigol, modiwlau academaidd ag iddynt gredydau a symposia bach.
Mae Charlotte yn awyddus i weithio gyda chydweithwyr sydd o’r farn y gallai fod galw yn y farchnad ar gyfer cwrs DPP byr yn eu harbenigedd academaidd. Mae hefyd yn awyddus i weithio gyda sefydliadau allanol sydd am wella sgiliau eu staff ym maes y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Bywgraffiad
Ymunais â’r uned DPP ar ôl gweithio ar Brosiect DPP Hyder o ran Gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd, a threuliais flwyddyn yn ymchwilio i sgiliau rheoli ac arwain yng Nghymru.
Enillais radd mewn Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd a Diploma Ôl-raddedig mewn Marchnata.