Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Kenneth Gloag

Gyda thristwch mawr y mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn cyhoeddi marwolaeth yr Athro Kenneth Gloag, a fu farw ar 28 Ebrill 2017 ar ôl cyfnod hir o salwch. Bu’n ddewr, yn gadarn ac roedd ganddo hiwmor laconig hyd y diwedd.

Cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn yr Ysgol ym 1995, a daeth yn Uwch-ddarlithydd (2004) ac yn Ddarllenydd (2010) cyn ennill ei gadair bersonol yn 2015. Roedd yn arbenigwr blaenllaw ym maes cerddoriaeth celf Prydain yr ugeinfed ganrif. Roedd hefyd yn groniclwr ac yn feirniad o gyfnod ôl-fodern cerddoriaeth a cherddoleg.

Fel ysgolhaig, bu i Ken wrthwynebu pob math o chwedl ac mae ei fywgraffiad yn galw i gof un chwedl enwog yn benodol, ddegawd wedi iddo gael ei eni. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed heb lawer o gymwysterau, ac ar ôl sawl cyfnod byr ym myd gwaith, dechreuodd fynd i ddosbarthiadau nos er mwyn ennill Cymhwyster Uwch yr Alban. Yn y pendraw, fe wnaeth gwrs diploma dwy flynedd yn Mholytechnig Napier (sy’n Brifysgol bellach), lle enillodd yr ALCM a’r LLCM wrth ganu’r piano. Wedi hynny, aeth i Brifysgol Surrey, lle enillodd radd BMus anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1990. Ar ôl blwyddyn, enillodd radd MMus mewn Theori a Dadansoddiad Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brenin Llundain, cyn cychwyn ar ei draethawd PhD ym Mhrifysgol Caerwysg, ar y teitl Structure, Syntax and Style in the Music of Stravinsky. Cafodd ei brofiad cyntaf o addysgu yn Dartington ac yn Napier.

Yn fuan ar ôl cyrraedd Caerdydd, cyflwynodd Ken roc, pop a jazz i’r cwricwlwm – mathau o gerddoriaeth lle’r oedd ganddo awdurdod diymwad, ond nad oedd yn eu defnyddio’n aml wrth gyfansoddi. Bu i Ken a chydweithwyr o adrannau hanes a seicoleg greu’r MA rhyngddisgyblaethol mewn Cerddoriaeth, Diwylliant a Gwleidyddiaeth, ac fe gynhaliodd y cwrs yn llwyddiannus am dros ddegawd. Bu’n fentor anffurfiol i lawer yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig. Daeth y rhai a oedd wedi’u goruchwylio’n bersonol ganddo i gael swyddi proffesiynol ac academaidd, gyda dau o’i raddedigion PhD cyntaf - Nicholas Jones a Sarah Hill – yn dod yn Uwch-ddarlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu Hill hefyd yn gyd-olygydd gydag ef ar dair cyfrol eithriadol o lwyddiannus i Wasg Prifysgol Caergrawnt ar gyfansoddwyr o Brydain: Peter Maxwell Davies Studies (2009), The Cambridge Companion to Michael Tippett (2013) a (gyda David Beard) Harrison Birtwistle Studies (2015). Fodd bynnag, gellir dadlau mai Key Concepts in Musicology (Routledge, 2005, ail argraffiad yn 2016), a ysgrifennwyd gyda David Beard, oedd ei gyfraniad pedagogaidd mwyaf. Mae’r llyfr bellach yn ganllaw dibynadwy i fyfyrwyr graddedig ledled y byd ar ‘gerddoleg newydd.’

O ran ei ysgrifau, bu i’r cyntaf gadarnhau statws canonaidd gwaith o bwys cyfansoddwr o Brydain sef A Child of Our Time gan Tippett (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1999). Bu i’r ail hefyd gadarnhau statws newydd ac argyhoeddedig gwaith Nicholas Maw, darn cerddorfaol naw deg munud Odyssey (Ashgate, 2008). Yn ôl Anthony Payne, bu i’r gwaith mawr a rhyfedd hwn ganfod ei dehonglwr delfrydol. Dyma’r llyfr cyntaf i gael ei neilltuo’n llwyr i gyfansoddwr neo-rhamantaidd a oedd yn mynd yn erbyn llif ei genhedlaeth. Roedd gan Ken gytundeb i ysgrifennu’r ail lyfr, ond yn anffodus ni fydd y prosiect hwnnw’n cael ei gwblhau oherwydd ei farwolaeth. Fodd bynnag, cawn flas o’i waith mewn erthygl (‘Nicholas Maw’s Breakthrough: “Scenes and Arias” Reconsidered’, Musical Times, 2011).  Llyfr hudolus arall ganddo oedd On Music and Photography, prosiect ar y cyd â Peter Sedgwick o ganlyniad i wybodaeth syfrdanol Ken o ffotograffiaeth. Pe bai ei iechyd wedi gwella, roedd yn uchelgais ganddo ddychwelyd i ffotograffiaeth. Ei lyfr olaf cyn ei farwolaeth oedd Postmodernism in Music (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2012) a ddaeth yn ddiarwybod â’i yrfa disglair yn ôl i’w fan cychwyn gan ddwyn ynghyd (fel y gwelir ar dudalen y cydnabyddiaethau), ei waith ers ei flynyddoedd israddedig.

Roedd cyhoeddiadau unigol Ken yn eang iawn, a phrin yn cwmpasu ei ddiddordebau. Roedd yn ymddiddori yn ei ddealltwriaeth o gelf a llenyddiaeth gyfoes yr ugeinfed ganrif, heb sôn am griced a phêl-droed. Felly, dim ond un ffenestr o’i wasanaeth parhaus ac anhepgor i’r gymuned ysgolheigaidd oedd ei waith cyhoeddedig. Roedd yn cyfrannu’n gyson mewn cynadleddau a symposia, ac yn brif siaradwr sawl tro yn rhyngwladol yn sgîl cyhoeddi ei lyfr ar ôl-foderniaeth. Bu’n gwasanaethu ar bwyllgorau i’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol a’r Gymdeithas ar gyfer Dadansoddi Cerddoriaeth, a bu’n olygydd adolygiadau o gyfnodolyn Caergrawnt, Twentieth-Century Music am ddegawd. Roedd yn gydweithiwr hynod ddylanwadol a chefnogol. Byddai wrth law i gynnig cyngor doeth a phwyllog, ac yn cydnabod y pethau a oedd yn werth ymladd amdanynt. Er mai’r rhai fu’n gweithio agosaf gydag ef fydd yn gweld ei eisiau fwyaf ar hyn o bryd, bydd effaith bellgyrhaeddol ac eang i’w golled.

Dr Charles Wilson

Teyrngedau i'r Athro Gloag

Ken was not only a first-rate scholar, but also a genuinely kind and warm-hearted human being who was liked by everyone who knew him.

It is sad to learn of his passing. His work, however, will live on.

Derek B. Scott, Athro Cerddoleg Feirniadol, Prifysgol Leeds