
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei hysgogi gan lyfrau erioed
I nodi 50 mlynedd o Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, mae Sara Huws, Swyddog Ymgysylltu Dinesig o Dîm Llyfrgelloedd ac Archifau’r Brifysgol yn myfyrio ar hanes ein casgliadau cynharaf ac yn trin a thrafod sut mae ein llyfrgelloedd wedi effeithio ar, ac wedi cael eu dylanwadu gan gymuned y Brifysgol.
Ym 1883, roedd Prifysgol Caerdydd – neu Brifysgol De Cymru a Sir Fynwy fel roedd hi’n cael ei hadnabod ar y pryd – yn brosiect mawreddog ag uchelgeisiau mawr. Ein Prifysgol ni oedd y gyntaf yng Nghymru i dderbyn merched. Agorwyd ein drysau gyda chenhadaeth, sef gwella rhagolygon pobl ifanc ar draws de Cymru a thu hwnt, a chael effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn gyffredinol.
Fodd bynnag, roedd arnom eisiau casgliad da o lyfrau.
Heb gasgliad o’r math byddem yn ei chael hi'n anodd galw ein hunain yn Brifysgol iawn, felly aethpwyd ati i ddatrys y broblem ar frys. Yn ffodus i’n cydweithwyr o Oes Fictoria, roedd casglwr llyfrau yng Ngogledd Cymru o’r enw Enoch Robert Gibbon Salisbury yn mynd drwy gyfnod o galedi ac yn awyddus i werthu ei gasgliad.


Roedd Salisbury yn gasglwr darbodus ac roedd wedi ymroi’n llwyr i ddatblygu'r unig gasgliad o lyfrau 'Cambriaidd' yn y byd. Yn anffodus, roedd hefyd mewn dyled ofnadwy, a bu'n rhaid iddo ffarwelio â’i gasgliad. Yn llawn cyfrolau prin am lenyddiaeth a bywydau’r Cymry, dyma oedd y casgliad perffaith ar gyfer ein prosiect newydd sbon yng Nghaerdydd.
Rhoddwyd y casgliad, a oedd yn cynnwys tua 50,000 o gyfrolau, mewn blychau a’i gludo o Ogledd Cymru ar drên a gomisiynwyd yn unswydd ar gyfer yr achlysur.
Y Prif Adeilad oedd lleoliad y casgliad, a pharhaodd i dyfu wrth i fyfyrwyr a oedd yn astudio pynciau megis mathemateg, y clasuron, athroniaeth a rhagor gyfrannu ato.
Ers y blynyddoedd cynnar hynny mae'r llyfrgell wedi tyfu i fod yn wasanaeth prysur ar hyd a lled y campws, gan ddarparu mynediad at gannoedd o filoedd o adnoddau ar draws sawl safle.
Beth bynnag sydd ei angen arnoch - boed yn llyfrau prin, cynlluniau pensaernïol, e-lyfrau, papurau newydd, cronfeydd data, neu werslyfr cyfoes - gall tîm y llyfrgell ddod o hyd iddo.
O osteoarchaeoleg i seiberddiogelwch, y Mabinogion i ficroblastigau, mae’r gwaith yn parhau y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod ein hymchwil ar draws pob disgyblaeth yn cael ei danio gan yr wybodaeth ddiweddaraf.
Er bod Llyfrgell y Brethynwyr yn llyfrgell hardd o Oes Fictoria wedi'i leinio â phaneli pren a gwydr lliw, roedd yn dangos ei hoed. Roedd y llyfrgell yn oer ac yn orlawn, felly penderfynwyd moderneiddio’r gwasanaeth a chreu llyfrgell fwy cyfforddus i fyfyrwyr cydwybodol hynny sy’n astudio yno.
Ac felly, ychydig dros hanner canrif yn ôl, dechreuodd y gwaith cynllunio i sefydlu adeilad eiconig ar gampws Cathays: Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, neu ASSL yn fyr.

Wedi'i adeiladu ar safle hen siediau injans rheilffordd, adeiladwyd y strwythur uchelgeisiol gwerth £1.1 miliwn (sy'n cyfateb i £12.5 miliwn heddiw) dros gyfnod o ddwy flynedd. Ar ei diwrnod agoriadol ym mis Awst 1975, roedd gan y llyfrgell le i 660 o ddarllenwyr a 445,000 o lyfrau, ac enillodd Wobr y Gymdeithas Goncrit am ei defnydd arloesol o’r deunydd.
Wrth inni nesáu at hanner can mlwyddiant y llyfrgell, edrychwn ymlaen at ddathlu ei rôl bwysig yn cefnogi a chroesawu myfyrwyr ac ymchwilwyr, yn ogystal â dathlu ein cydweithwyr yn llyfrgelloedd y Brifysgol am y gwasanaeth y maent wedi bod yn ei ddarparu yn ASSL ers hanner canrif.
Dros yr hanner canrif ddiwethaf, mae ASSL wedi dod yn rhan o brofiad myfyrwyr Caerdydd, yn lle ar gyfer cyfeillgarwch, darganfod a dyddiadau cau.
Mae’r llyfrgell wedi parhau i esblygu i ddarparu ar gyfer anghenion myfyrwyr ac ymchwil – erbyn hyn mae gan y llyfrgell fynediad 24 awr, mannau tawel ac addasol, cynllun benthyca gliniaduron, a mannau astudio cydweithredol.
Yn ddiweddar, fe wnaeth gwaith adnewyddu dros gyfnod yr haf 2024 wella effaith amgylcheddol yr adeilad, trwy osod technoleg dal carbon ar ei do.
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd ers dyddiau casgliad Salisbury. Fodd bynnag, mae'r casgliad cyntaf gwerthfawr hwnnw'n parhau i fod yn rhan o lyfrgell y Brifysgol dan ofal ASSL, lle mae Casgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol wedi'u lleoli.
Efallai y bydd rhai’n ei gweld hi’n rhyfedd meddwl am adeilad concrit modern fel ein un ni yn dathlu ei hanner can mlwyddiant. Ond dyma ni: eleni, mae ein llyfrgellwyr yn paratoi i ddathlu hanner canrif ers benthyca'r llyfr cyntaf yn ASSL.

Mae ASSL yn 50!
Os oes gennych atgofion i'w rhannu o'r llyfrgell, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cyn israddedigion, ymchwilwyr, academyddion, neu aelodau o dîm y llyfrgell – gobeithiwn y byddwch yn gallu dathlu gyda ni wrth i ni edrych ymlaen at yr hanner can mlynedd nesaf o sicrhau bod y Brifysgol yn llawn o lyfrau gwych.