Ewch i’r prif gynnwys

Mae Kate Muir yn arbenigwraig ar iechyd menywod, yn newyddiadurwraig ymchwiliol ac yn wneuthurwr rhaglenni dogfen. Bu’n gyfrifol am greu a chynhyrchu dwy raglen ddogfen arloesol i Channel 4 ar y menopos a gafodd eu cyflwyno gan Davina McCall. Mae hi wedi ysgrifennu tair nofel a phedwar llyfr ffeithiol. Yn ei llyfr diweddaraf, sef Everything you need to know about the pill (but were too afraid to ask), gwneir ymchwiliad i atal cenhedlu a dilynir ei rhaglen ddogfen Pill Revolution. Mae hi'n un o sylfaenwyr The Menopause Charity ac yn gyn-ohebydd tramor i The Times yn Efrog Newydd a Washington.