Skip to main content

PLACE webinar: Future Generations & Well-being Planning in Wales by Dr Alan Netherwood and Dr Andrew Flynn

Calendar Thursday, 16 July 2020
Calendar 11:00-12:00

This event has ended.

Add to calendar

Bydd y seminar hon yn cyfrannu at ddadleuon parhaus ar sut mae gan benderfyniadau a wneir gan genedlaethau presennol oblygiadau i genedlaethau'r dyfodol, a sut gallai llunwyr polisïau flaenoriaethu lles y rhai sydd eto i'w geni.

Mae'n defnyddio ymchwil gan Alan ac Andrew sy'n canolbwyntio ar weithgareddau actorion allweddol yng Nghymru ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym, ochr yn ochr ag arferion sy'n dod i'r amlwg a fframweithiau damcaniaethol i ystyried a yw newid yn digwydd mewn llywodraethu, polisïau cyhoeddus a chyflwyno am genedlaethau i ddod.

Mae'r ymchwil yn craffu ar weithgaredd sefydliadau allweddol, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gan fod Cymru yn aml yn cael ei hystyried yn esiampl o arloesi ar ddatblygu cynaliadwy, mae gan y canfyddiadau werth o ran deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n codi wrth geisio ailffocysu ein cynllunio yn y tymor hir.

Bydd Alan ac Andrew yn cyhoeddi papur ymchwil ar-lein trwy'r Ysgol Daearyddiaeth i gyd-fynd â'r seminar hwn.

Mae Dr. Alan Netherwood wedi cyfrannu at ystod eang o weithgareddau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru ar ddatblygu cynaliadwy, gan gynnwys ei waith fel ymgynghorydd ac fel Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddo ystod eang o brofiad o helpu'r sector cyhoeddus ac eraill i ddatblygu eu syniadau ynghylch datblygu cynaliadwy ac arwain newid mewn polisïau, arferion a phartneriaethau. alan.netherwood@gmail.com

Mae Dr. Andrew Flynn yn uwch-academydd sydd wedi bod yn ymchwilio i lywodraethu datblygu cynaliadwy ar raddfeydd cenedlaethol, rhanbarthol, lleol a sefydliadol ers 20 mlynedd. Mae ei arbenigedd wedi cael ei ddefnyddio gan wahanol haenau o lywodraeth, cyrff cyhoeddus a phreifat yn ogystal â chymdeithas sifil.
FlynnAC@caerdydd.ac.uk

Share this event