Welsh medium PhD scholarships and studentships
This content is only available in Welsh. This is a unique opportunity for an individual from a Welsh language education background. You can see the English version of the advert on the main PhD studentships and projects listing.
Dyma fanylion ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darganfod cyffuriau newydd i drin clefydau epilepsi niwroddirwyiol mewn plant
Prosiect ymchwil | PhD |
---|---|
Pwy sy'n gymwys | Myfyrwyr y DU/UE a ariennir yn uniongyrchol |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau | 1 Gorffennaf 2021 |
Dyddiad dechrau | 1 Hydref 2021 |
Goruchwylwyr |
Manylion y prosiect
Hysbyseb am ysgoloriaeth PhD 3 mlynedd yn labordy Dr. Emyr Lloyd-Evans, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Cyd-ariennir yr ysgoloriaeth am dair mlynedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r elusen Almaeneg yr ‘NCL-Stiftung’. Bydd yr ymchwil yn cymryd lle yn bennaf yn labordy Dr. Emyr Lloyd-Evans yn Ysgol y Biowyddorau, ond hefyd yn labordy yr ail oruchwyliwr, Dr. Helen Waller-Evans, yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, Prifysgol Caerdydd. Mae ELE yn rhan o’r adran Niwrowyddoniaeth a’r sefydliad ymchwil dementia, gafodd ei asesu yn ail allan o bob prifysgol yn y Deyrnas Unedig yn yr asesiad REF2014. Mae posib y bydd cyfle i ymweld a’r Sefydliad Iechyd Cenedlaethol yn Washington a gweithio yno yn un o’r labordai sgrinio cemegolion meddygol mwyaf yn y byd.
Mae epilepsi niwroddirywiol yn glefyd difrifol sydd, gan amlaf, yn effeithio plant ac yn cael effaith negyddol ar safon bywyd y claf a’r teulu ac yn arwain at farwolaeth cynnar. Ar hyn o bryd nid oes cyffuriau ar gael i drin y clefyd sydd yn effeithio ar oddeutu 1:7,000 o enedigaethau (epilepsi ei hun yn effeithio ar 1:142 yng Nghymru). Yn ddiweddar mae labordy Emyr Lloyd-Evans wedi datblygu un driniaeth ar gyfer y clefyd fydd yn arwain at dreialon clinigol yn yr U.D.A.
Mae tri rhan i’r prosiect:
- ddefnyddio bôn gelloedd o’r clefyd epilepsi niwroddirywiol ‘Batten’ er mwyn asesu a datblygu ffenoteipiau unigryw,
- caiff y rhain eu haddasu ar gyfer y broses o greu a rhedeg sgriniau cemegol mewnbwn uchel (yma yng Nghaerdydd a thramor) er mwyn darganfod meddyginiaethau newydd ar gyfer y clefydau epilepsi, a
- profi fod y cemegolion yn gweithio yn y model o’r clefyd a ddatblygwyd gennym yn y pysgodyn ‘zebrafish’.
Y nôd yw ail-bwrpasu hen feddyginiaethau er mwyn creu triniaeth clinigol newydd a chyflym i’r clefydau hyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn rhugl yn y Gymraeg sydd a Gradd is-raddedig neu uwch mewn maes addas (bywydeg, biocemeg, meddyginiaeth, cemeg) o unrhyw brifysgol i gwblhau doethuriaeth llawn amser am dair mlynedd ym maes bywydeg meddyginiaethol. Bydd rhaid ysgrifennu’r traethawd ymchwil hir terfynol yn y Gymraeg. Bydd y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg yn cynnig cefnogaeth i gyflawni hyn ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau anffurfiol at Dr. Emyr Lloyd-Evans (Lloyd-EvansE@cardiff.ac.uk).
Manylion ariannu
Ariennir y prosiect hwn yn llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a NCL-Stiftung am 3 blynedd.
Gofynion academaidd
Gofyniad o ran y Gymraeg - Rhaid cyflwyno’r traethawd yn Gymraeg.Meini prawf academaidd Gradd dosbarth 1 / 2.1 (mewn pwnc perthnasol) neu radd dosbarth 2.2 a gradd meistr (mewn pwnc perthnasol) neu brofiad proffesiynol perthnasol ychwanegol.
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais ar gyfer y Doethur mewn Athroniaeth yn y Biowyddorau, gyda dyddiad cychwyn o Hydref 2021.
Yn adran cynnig ymchwil eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïwch ddisgrifiad y prosiect yn y blwch testun a ddarperir.
Yn yr adran ariannu, dewiswch ‘Byddaf yn ceisio am ysgoloriaeth / grant’ a nodwch eich bod yn gwneud cais am gyllid wedi’i hysbysebu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a NCL-Stiftung.
Os ystyrir eich bod yn addas ar gyfer y prosiect, fe'ch gwahoddir i gyfweliad wythnos ar 12fed Gorffennaf 2021.
Datblygu triniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor
Dyddiad cau | 1 Gorffennaf 2021 |
---|---|
Dyddiad dechrau | 1 Hydref 2021 |
Hyd | 3 blynedd |
Y corff cyllido | Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Lefel astudio | Ymchwil ôl-raddedig |
Math o wobr | Ysgoloriaeth |
Ysgoloriaethau a gynigir | 1 |
Crynodeb y prosiect
Mae’r ysgoloriaeth hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ffocysu ar ymchwil am ddulliau arloesol o drin clefyd niwronau motor, hefyd a elwir yn Sglerosis Amyotroffig Ystlysol (ALS). Bydd yr ymchwil yn cymryd lle yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (SDM), sydd â chysylltiadau gydag Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Prif nod y Sefydliad yw cyflenwi darganfyddiadau meddyginiaethol cyfoes i wella triniaethau a bywydau pobl mewn angen.
Cyfle unigryw i unigolyn o gefndir addysg Cymraeg i gwblhau doethuriaeth ym maes Cemeg Feddyginiaethol drwy gyfrwng y Gymraeg yn Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Cefndir i’r brosiect
Mae Sglerosis Amyotroffig Ystlysol (ALS), sef y ffurf fwyaf cyffredin ar glefyd niwronau motor, yn glefyd niwrogyhyrol difrifol ac angheuol nad oes eto driniaeth ar gael i’w wella. Nid oes meddyginiaethau effeithiol ac mae angen canfod therapïau i newid cwrs y clefyd ar frys ac i drin y symptomau.
Ar draws y clefydau niwroddirywiol, mae’n dod yn amlwg bod metaboledd RNA sydd wedi newid yn allweddol i ddechreuad a datblygiad y clefyd. Mae cyfresi bach o DNA a elwir yn ficroloerennau yn digwydd yn naturiol yn y genom dynol ac maent yn chwarae rhan bwysig yn esblygiad a swyddogaeth y genomau. Fodd bynnag, mae’r cynnydd mewn microloerennau yn gysylltiedig â thros ddau ddwsin o glefydau niwrolegol. Mae enghreifftiau amlwg o’r clefydau hyn yn cynnwys dystroffi myotonig, clefyd Huntingdon ac atacsia sbinoserebelaidd.
Bydd yr ymchwil yn cwmpasu sawl agwedd gwahanol o broses darganfod cyffuriau. Bydd cemeg synthetig yn rhan sylweddol o’r ymchwil i ddylunio a datblygu moleciwlau bach i brofi’r ddamcaniaeth a all cynyddu lefelau RNA ein targed newydd (Nuclear Enriched Abundant Transcript 1, NEAT1) ddarparu ffordd newydd arloesol i fynd i’r afael ag ALS.
Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i ddefnyddio cemeg gyfrifiadurol o’r radd flaenaf i lunio’r broses ag i ddefnyddio arbrofion biolegol i asesu’r moleciwlau a grëir. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig sydd â diddordeb cryf mewn cemeg feddyginiaethol, yn ddelfrydol o gefndir astudio’r pynciau cemeg organig neu fiocemeg.
Mi fydd rhaid ysgrifennu’r traethawd ymchwil terfynol yn y Gymraeg a bydd cymorth priodol o fewn y Sefydliad, y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gyflawni hyn ac i wella’r sgiliau hanfodol yn y meysydd gwyddonol a’r Gymraeg yn ôl yr angen.
Nod y prosiect
Nod y prosiect hwn yw dylunio a datblygu molecylau bach i brofi’r ddamcaniaeth a all NEAT1 ddarparu ffordd newydd arloesol i fynd i’r afael ag ALS.
Amgylchedd
Prif nod y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw trosi darganfyddiadau sylfaenol mewn prosesau clefyd a nodi targedau moleciwlaidd yn gyffuriau newydd.
Gan ddod â gwyddonwyr blaenllaw’r byd at eu gilydd i gynhyrchu a nodi cyffuriau newydd posibl, rydym yn cynnig modd unigryw i gydweithio gyda'r diwydiant fferyllol. Mae ein hymchwil yn cwmpasu darganfod cyffuriau modern ar draws sbectrwm oncoleg, imiwnedd, niwrowyddoniaeth, clefyd y system nerfol ganolog a chlefyd anadlol.
Rydym yn meithrin cysylltiadau hanfodol rhwng ein hymchwilwyr a'r diwydiant fferyllol, gan ganiatáu i ni drosi ein hymchwil yn gynhyrchion real a all wella bywydau pobl ar draws y byd, a gosod Cymru ar y blaen o ran arloesi meddygol.
Mae’r SDM, sydd wedi’i leoli yn Ysgol y Biowyddorau (BIOSI), sydd â cyswllt ardderchog gyda Yr Ysgol Meddygaeth. Mae’r ddau ysgol yn ddarparu amgylchedd ymchwilio a dysgu deinamig ac ysgogiadol, ac yn cyfuno’r offer mwyaf modern gydag ymchwilwyr o’r radd flaenaf. Adnewyddwyd labordai’r SDM i gyd yn ddiweddar, ac yn sgìl y buddsoddiad sylweddol hwn, mae gennym offer ac adnoddau o’r safon uchaf ar gyfer Ymchwil Darganfod Meddyginiaethau. Rydym yn cyd-weithio gydag ysgolion, sefydliadau ac adrannau gwahanol y Brifysgol sy’n golygu bydd gan y myfyriwr fynediad i’r adnoddau gorau posib.
Manylion ariannu
Cymorth ffioedd dysgu | Ffioedd dysgu llawn y DU [noder y talir y ffioedd hyn yn llawn gan y brifysgol] |
---|---|
Cyflog cynnal a chadw | Cyflog cyfwerth â Lleiafswm Cenedlaethol Cyngor Ymchwil y DU |
Meini prawf cymhwysedd
Gofyniad yr iaith Gymraeg | Rhaid ysgrifennu traethawd ymchwil yn y Gymraeg |
---|---|
Meini prawf academaidd | Gradd (cemeg, biocemeg, neu bioleg) dosbarth 1/2.1 Neu gradd (cemeg, biocemeg, neu bioleg) dosbarth 2.2 + gradd meistr neu brofiad proffesiynol perthnasol ychwanegol Ystyrir ceisiadau o bynciau eraill perthnasol (fferylliaeth, biocemeg ayyb) |
Mae'n rhaid:
- bod yn fyfyriwr ‘gartref‘ - Os nad ydych, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth rhwng y ffioedd rhyngwladol a ffioedd gartref
- bodloni'r meini prawf derbyn priodol
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais ar gyfer y Doethur mewn Athroniaeth yn y Biowyddorau, gyda dyddiad cychwyn o Hydref 2021.
Yn adran cynnig ymchwil eich cais, nodwch deitl y prosiect a goruchwylwyr y prosiect hwn a chopïwch ddisgrifiad y prosiect yn y blwch testun a ddarperir.
Yn yr adran ariannu, dewiswch ‘Byddaf yn ceisio am ysgoloriaeth / grant’ a nodwch eich bod yn gwneud cais am gyllid wedi’i hysbysebu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy'r goruchwyliwr academaidd Yr Athro Simon Ward WardS10@Cardiff.ac.uk.
Os ystyrir eich bod yn addas ar gyfer y prosiect, fe'ch gwahoddir i gyfweliad wythnos ar 12fed Gorffennaf 2021.
Rydym yn cadw'r hawl i gau ceisiadau yn gynnar os derbynnir ceisiadau digonol.