Skip to main content

Mrs Laura Doyle

Pre-registration Project Manager

School of Pharmacy and Pharmaceutical Sciences

Overview

Ariannir Laura gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu ac i gefnogi dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y rhaglen MPharm. Mae hi hefyd yn dysgu cyrsiau ôl-raddedig ac WCPPE sy'n cydfynd gydag apwyntiadau tebyg yn yr Ysgolion Meddygaeth a Gofal Iechyd. Bydd profiad fferyllol sylweddol Laura o fudd i'n holl fyfyrwyr israddedig ond bydd hi'n canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi sgiliau clinigol a chyfathrebu ar gyfer ein myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Ei nod yw i sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'r system iechyd yng Nghymru.

Graddiodd Laura o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm) yn 2004. Wedi hyn aeth ati i weithio ym maes fferylliaeth gymunedol.

Ar ôl cwblhau ei diploma ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Gymunedol aeth ymlaen i fod yn Athro Ymarferydd yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd. Dros y chwe mlynedd ddiwethaf mae Laura wedi canolbwyntio ar hyfforddiant fferyllwyr cyn cofrestri. Mae'n gweithio yng Nghanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru dridiau yr wythnos ac yn parhau i weithio'n ymarferol hefyd.