Skip to main content

Dr Angela Morelli

Art history tutor

Overview

Astudiais Hanes Celf a Phensaernïaeth ym Mhrifysgol Manceinion, Y Clasuron a Hanes yr Hen Fyd (MA) ym Mhrifysgol Abertawe ac Archaeoleg (PhD) ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

Rwy’n addysgu hanes celfyddyd ers 2001 ar amryw bwnc a chyfnod, o gelfyddyd Hen Roeg a Rhufeinig, i gelfyddyd Ganoloesol, Duduraidd, y Dadeni Dysg a Fictoraidd, ynghyd â chynrychioliadau o rywedd yng nghelfyddyd a ffotograffiaeth yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.

Research

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys: defnydd ac ailddefnydd o themâu a chymeriadau clasurol ym maes hanes celfyddyd, wrth iddynt gwmpasu nifer o gyfnodau a genres.

Hefyd, rwy’n ymddiddori yng nghelfyddyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda phwyslais arbennig ar ddehongliadau a chanfyddiadau o hanes cymdeithasol, sy’n cynnwys portreadau o iechyd meddwl, trosedd a chelfyddyd angladdol.

Cyhoeddais fy llyfr cyntaf yn 2009: Roman Britain and Classical Deities: Gender and Sexuality in Roman Art. Rhydychen: Archaeopress (Cyfres Brydeinig o Adroddiadau Archaeolegol Prydain), ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar fy ail un (Celfyddyd Brythonig-Rufeinig).

Biography

Professional memberships

Rydw i’n Gymrawd i’r Academi Addysg Uwch.