Skip to main content

Apply now for substantial Welsh language scholarships

17 February 2017

School of Welsh students
School of Welsh students

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnig 5 ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr sydd am astudio yn yr Ysgol yn 2017.

Bydd Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol yr Ysgol yn gofyn i ymgeiswyr ateb y cwestiynau a ganlyn:

  • Pam ydych chi am astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd?
  • Beth sy'n eich gwneud chi'n arbennig?
  • Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?

Gallwch anfon y cais at Ysgol y Gymraeg ar unrhyw ffurf - a bydd creadigrwydd y cais yn cael ei ystyried hefyd. Gallech chi gyflwyno fideo, podcast, poster, cân, traethawd, cerdd, unrhyw beth. Ond cofiwch mae angen bod mor greadigol â phosibl.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r 28 o Chwefror 2017. Am ragor o fanylion ebostiwch yr Ysgol neu ffoniwch 029 20 870 637.

Ysgoloriaeth Salisbury

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth William Salesbury sy'n cynnig £5,000 i ddau fyfyriwr sy'n dymuno astudio 100% (neu 120 credyd y flwyddyn) o'u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ceir pecyn ymgeisio llawn ar wefan y Coleg Cymraeg a rhaid anfon eich ffurflen gais cyn 20 Mawrth 2017. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Coleg drwy ffonio 01267 610 400.