Skip to main content

Careers and the Welsh language Event

18 November 2016

The Old Library
The Old Library, Cardiff

Hoffech chi ddysgu mwy am gyfleoedd i ddefnyddio'ch Cymraeg yn y byd gwaith? Cewch gyfle i wneud hynny mewn noson 'Gyrfaoedd gyda'r Gymraeg', nos Lun, 28 Tachwedd, yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, rhwng 6-8 y.h.

Dyma noson a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n gyfle i chi sgwrsio â graddedigion o'r Ysgol a dysgu mwy am lwybr eu gyrfa a manteision ennill gradd yn y Gymraeg. Mae'r gwesteion yn cynnwys:

  • Dafydd Wyn Rees (Heno, Tinopolis)
  • Ruth Thomas (Uwch Rheolwr Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau Prifysgol Caerdydd)
  • Cerith Rhys Jones (WWF Cymru)
  • Jessica Rumble (NUS Cymru, Wise Wales)
  • Eleri James (Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg).

Gallwch archebu eich tocynnau yn rhad ac am ddim ar-lein. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Cadi Thomas, Ysgol y Gymraeg.

Share this story