Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 2014

1 September 2014

Gaynor Williams, Healthcare Sciences Lecturer workshopping at the 2014 National Eisteddfod.
Gaynor Williams, Healthcare Sciences Lecturer workshopping at the 2014 National Eisteddfod.

Am y tro cyntaf yn eu hanes, fe drefnodd Yr Ysgol Meddygaeth ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd gyfres o weithgareddau ar y cyd ar stodinau Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. 

Eu bwriad oedd i ysbrydoli gweithwyr iechyd dwyieithog y dyfodol a chynnig gwybodaeth ymarferol a allai achub bywydau hefyd. 

Achub bywydau gydag alawon gwerin 

Daeth heidiau o blant, pobol ifanc a'u rhieni at y stondinau i ddysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonari i rythm alawon gwerin Gymreig o dan oruchwyliaeth Anna Jones, Cyfarwyddwr Cysylltiol, Dr Zoë Morris-Williams a Gaynor Williams, darlithwyr o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a Sara Whittam,Rheolwr Datblygu'r Iaith Gymraeg yn Sefydliad Addysg Feddygol Caerdydd. Dysgodd ein cyfranwyr ifanc nad yn unig cân y Bee Gees, 'Staying Alive', sydd yn gweithio pan yn gweithredu sgiliau adfywio cardio-pwlmonari.

Cafodd yr ymwelwyr yr her hefyd o geisio dyfalu faint o siwgr sydd mewn bwydydd bob dydd, pwnc llosg wnaeth ddenu cryn drafodaeth.  A chreodd Gaynor Williams, ein Darlithydd Nyrsio cyfrwng Cymraeg, adnodd darogan y dyfodol a oedd yn ateb cwestiynau cyffredin am astudio cyrsiau iechyd ac yn chwalu ambell i gamsyniad am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd. Dyma adnodd gwreiddiol a chyffrous i ddarpar fyfyrwyr iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Pwyisgrwydd y Gymraeg

Yn ogystal, fe wnaeth yr Ysgol Meddygaeth a'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd greu dwy ffilm yn benodol ar gyfer yr Eisteddfod. Un yn dangos pwysigrwydd y Gymraeg ym meysydd iechyd yng Nghymru a'r llall yn cynnig cyngor defnyddiol i ddarpar-fyfyrwyr.

Share this story