Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil sgitsoffrenia

Gweithio tuag at ddealltwriaeth well o sbardunau sgitsoffrenia a'r ffactorau sy'n achosi'r cyflwr.

Mae ein hymchwil ar sgitsoffrenia wedi'i gyhoeddi yn rhai o brif gyfnodolion gwyddonol y byd, ac mae ein tîm wedi chwarae rôl allweddol yn darganfod y genynnau sy'n effeithio ar risg unigolyn o ddatblygu sgitsoffrenia.

O ganlyniad i'n darganfyddiadau diweddar rydym bellach yn agosach nag erioed at ddeall sut mae bioleg a geneteg yn rhyngweithio i achosi'r cyflwr llethol hwn.

Beth yw sgitsoffrenia?

Mae sgitsoffrenia yn broblem iechyd meddwl difrifol sy'n effeithio ar tua 1% o boblogaeth y byd. Efallai nad yw hynny’n swnio fel ffigur sylweddol, ond mae hynny’n golygu, ym mhoblogaeth y DU yn unig, fod dros 600,000 o unigolion yn byw gyda’r cyflwr hwn.

Mae sgitsoffrenia yn effeithio ar y ffordd y mae rhywun yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Symptomau mwyaf adnabyddus sgitsoffrenia yw rhithwelediadau (clywed neu weld pethau nad ydynt yn bodoli) a rhithdybiau (credoau anarferol nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth). Gall symptomau eraill hefyd gynnwys problemau gyda hwyliau ac emosiynau gwan. Mae'r cyfryngau yn aml yn gwneud cysylltiadau rhwng sgitsoffrenia a thrais, ond mewn gwirionedd mae ymddygiad treisgar gan bobl â’r cyflwr yn eithaf prin.

Ein hymchwil sgitsoffrenia

Mae ein gwaith sgitsoffrenia yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd. Mae ffocws mawr ar astudiaethau genetig a genomig, ac rydym wedi nodi nifer fawr o ffactorau risg genetig penodol ar gyfer sgitsoffrenia drwy ein gwaith yma yng Nghaerdydd a thrwy ein mentrau cydweithredol rhyngwladol.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn sut mae ffactorau genetig yn dylanwadu ar yr ymateb i gyffuriau a sut maent yn rhyngweithio ag amryw sbardunau amgylcheddol.

At hynny, mae gennym ddiddordeb mewn sut mae genynnau risg yn effeithio ar weithrediad ac ymddygiad yr ymennydd, ac rydym yn defnyddio dulliau bioleg systemau i ddeall pa agweddau penodol ar weithrediad yr ymennydd sy’n cael eu heffeithio.

Rydym hefyd yn cynnal astudiaethau niwroddelweddu ac yn gweithio mewn amryw systemau model, gan gynnwys modelau bôn-gelloedd, i ddeall y mecanweithiau sy'n cysylltu'r genynnau rydym wedi'u darganfod â risg uwch o sgitsoffrenia.

Ar hyn o bryd, nid yw triniaethau ar gyfer sgitsoffrenia bob amser yn llwyddiannus a gallant achosi sgîl-effeithiau annymunol. Drwy ddatblygu ein dealltwriaeth enetig a biolegol o'r clefyd, rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa well i adnabod pobl sydd mewn perygl o ddatblygu sgitsoffrenia yn ogystal â datblygu triniaethau effeithiol i helpu i reoli'r cyflwr hwn.

Helpu gyda'n hymchwil

Ni allwn wneud ymchwil mor hanfodol heb eich cymorth chi. Drwy ddod yn wirfoddolwr yn ein hymchwil, gallech wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw gyda sgitsoffrenia.

Rydym yn bwriadu recriwtio pobl 16 oed a hŷn sydd â diagnosis o anhwylder seicotig, gan gynnwys:

  • sgitsoffrenia;
  • sgitsoffreniffurf;
  • anhwylder sgitsoaffeithiol;
  • seicosis nad yw wedi'i nodi fel arall; ac
  • anhwylder rhithdybiol.

Mae helpu gyda'n hymchwil sgitsoffrenia yn golygu un ymweliad sy'n para rhwng 2 a 3 awr, naill ai yn eich cartref eich hun neu yn ein clinig - pa bynnag un sydd fwyaf cyfforddus i chi. I ddiolch i chi am gymryd rhan, byddwch yn cael taliad bach am eich amser.

Os byddwch yn cymryd rhan, bydd ein hymchwilwyr yn gwneud y canlynol:

  • Gofyn i chi gwblhau set fach o dasgau cof a chanolbwyntio.
  • Gofyn rhai cwestiynau i chi am eich iechyd, y symptomau y gallech fod wedi'u profi, a'ch triniaeth.
  • Cymryd sampl bach o waed o'ch braich ar gyfer y rhan o'n hastudiaeth sy'n ymwneud â geneteg.

Bydd apwyntiadau’n cael eu trefnu ar gyfer amser a dyddiad sy’n gyfleus i chi, a bydd yr holl wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn cael ei storio’n gyfrinachol. Os hoffech helpu, cysylltwch â ni drwy e-bostio psychosisresearch@caerdydd.ac.uk.