Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil anhwylderau hwyliau

Ymchwilio i’r hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin y byd.

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio i ddeall yn well sut mae ffactorau genetig ac amgylcheddol yn cyfuno i effeithio ar risg unigolyn o ddatblygu anhwylderau hwyliau.

Deall anhwylderau hwyliau

Mae anhwylderau hwyliau megis anhwylder deubegynol ac iselder yn gyffredin iawn, ac maen nhw’n gallu effeithio ar unrhyw un. Iselder yn gymysg â gorbryder yw'r broblem ehangaf yn y DU o ran iechyd meddwl, gan effeithio ar hyd at 10% o'r boblogaeth.

Ein hymchwil ar anhwylderau hwyliau

Mae ein hymchwil ar anhwylderau hwyliau'n ymdrin â phynciau gan gynnwys y berthynas genetig rhwng iselder, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, ac anhwylderau hwyliau mewn perthynas â genedigaeth.

Y Rhwydwaith Ymchwil i Anhwylder Deubegynol (BDRN)

Mae ein grŵp ymchwil ar anhwylderau hwyliau'n chwarae rhan amlwg yn y Rhwydwaith Ymchwil i Anhwylder Deubegynol, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Birmingham. Dyma'r astudiaeth fwyaf o'i math yn y byd, ac recriwtiwyd mwy na 5000 o aelodau o'r cyhoedd hyd yn hyn.

Maes diddordeb presennol BDRN yw anhwylder deubegynol, beichiogrwydd a genedigaeth, ac mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag elusen Action on Postpartum Psychosis (APP).

Rhaglen Addysg Ddeubegynol Cymru (BEPC)

Mae'r ymchwil ar anhwylderau hwyliau wedi arwain at greu Rhaglen Addysg Ddeubegynol Cymru (BEPC). Mae'r rhaglen arobryn hon ym maes seicoaddysg a'r rhaglen gyfatebol ar-lein Beating Bipolar yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a SmileOn Healthcare Learning, gyda chefnogaeth gan Gronfa’r Loteri Fawr.

Nod y rhaglen yw rhoi i bobl ag anhwylder deubegynol yr offer a'r technegau sydd eu hangen arnyn nhw i reoli eu cyflwr yn well.