Ewch i’r prif gynnwys

Themâu ymchwil

Trefnir ein hymchwil o amgylch themâu profiad cleifion a theulu, thrombosis, gofal diogel ac effeithiol, a phrofedigaeth

Profiad y claf a theulu’r claf

Dan arweiniad yr Athro Annmarie Nelson, mae'r ymchwil hon wedi'i seilio ar safbwynt y claf a'r teulu, gan gynnwys barn a phrofiadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n canolbwyntio ar roi cymorth wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth cleifion sy’n dioddef o glefydau datblygedig, llythrennedd marwolaeth, a monitro profiad cyfranogwyr treialon clinigol mewn amser go iawn.

Mae profiad y cleifion yn aml yn herio’r rhagdybiaethau sy’n cael eu gwneud yn ein treialon clinigol ynghylch dewis ac angen cleifion, ac mae unedau treialon o bob cwr o’r wlad yn cysylltu â ni i arwain y gwaith hwn drostynt.

Yr Athro Annmarie Nelson

Yr Athro Annmarie Nelson

Athro Gofal Ategol a Lliniarol; Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie

Email
nelsona9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7473

Thrombosis

Mae'r ymchwil hon, dan arweiniad yr Athro Simon Noble, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd atal, trin a rheoli thromboemboledd gwythiennol (VTE) a cheuladau gwaed mewn cleifion canser datblygedig.

Simon

Professor Simon Noble

Athro Clinigol Meddygaeth Gefnogol a Lliniarol; Arweinydd Thematig, Thrombosis

Gofal diogel ac effeithiol.

Nod yr ymchwil hon, sy’n cael ei chyd-arwain gan yr Athro Anthony Byrne ac Andrew Carson-Stevens, yw creu amgylchedd cynaliadwy ar gyfer effaith drosiadol, creu disgrifiadau cynhwysol o ddarpariaeth Gofal Diwedd Oes (EOLC), defnyddio tystiolaeth a pharatoi ar gyfer newid.

Professor Anthony Byrne

Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie; Arweinydd Thematig, Cachexia ac adfer

Yr Athro Andrew Carson-Stevens

Yr Athro Andrew Carson-Stevens

Clinical Research Fellow

Email
carson-stevensap@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7779

Profedigaeth

Nod y thema profedigaeth dan arweiniad Dr Emily Harrop yw gwella mynediad at gymorth priodol, rhoi tystiolaeth ar ba gymorth sy'n gweithio orau ac i bwy, a darparu offer ar gyfer ymchwil ac ymarfer. Mae'r ymchwil hon yn ceisio cynnig cysondeb ac ansawdd wrth roi gwybodaeth a chynnig cefnogaeth briodol yn ogystal ag optimeiddio dylunio a darparu gwasanaethau ar ôl y pandemig.

Mae ein hymchwil ar brofedigaethau wedi dylanwadu ar Gomisiwn y DU ar Brofedigaeth a Fframwaith Profedigaeth Llywodraeth Cymru.

Dr Emily Harrop

Dr Emily Harrop

Cydymaith ymchwil

Email
harrope@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7184