Ewch i’r prif gynnwys

Eich cefnogi chi

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Gall ein gwasanaeth adolygu cyflym PaCERS ateb eich cwestiynau ymchwil pwysig o ran gofal lliniarol.

PaCERS

Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth Adolygu Tystiolaeth Gofal Lliniaraol – Palliative Care Evidence Review (PaCERS), a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi clinigwyr a rhai eraill sy'n gwneud penderfyniadau drwy gyfuno tystiolaeth ymchwil â datblygu gwasanaeth ac ymarfer. Mae'r gwasanaeth yn unigryw gan ei fod yn ymateb i alwadau clinigol neu sefydliadol allanol am dystiolaeth, yn hytrach na diffinio'r agenda adolygu.

Rydym am eich helpu i gysylltu ymarfer clinigol yn agosach â thystiolaeth, a gwneud gwahaniaeth i gleifion yn sgîl hynny.

Clinigau methodoleg ymchwil

Rydym wedi cyflwyno clinigau methodoleg ymchwil er mwyn cynnig cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, sydd am ddatblygu astudiaeth ymchwil ym maes gofal lliniarol.

Drwy’r system hon, bydd academyddion a staff amhrofiadol y GIG yn gallu ennill profiad ymchwil a chydweithio â grwpiau ymchwil sydd wedi ennill eu plwyf. Gallwn gynnig y canlynol:

  • cyngor ar sut i ddatblygu syniad ymchwil
  • cyngor methodolegol arbenigol
  • nodi llwybrau ariannu a chymorth gyda cheisiadau
  • cyfarwyddyd ynglŷn â’r dewisiadau cywir ar gyfer cwblhau astudiaethau
  • mynediad at uned treialon hanfodol ar gyfer cynnal astudiaethau.

Trefnu apwyntiad

I drefnu apwyntiad neu gael gwybod mwy, cysylltwch â ni  ar mariecuriecentre@caerdydd.ac.uk: