Ewch i’r prif gynnwys

Cyfeirio a chefnogi

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae estyn allan i siarad â rhywun pan fyddwch yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl yn bwysig iawn.

Mae llawer o leoedd defnyddiol y gallwch chi neu berson ifanc rydych chi'n eu hadnabod droi atynt pan fydd angen cymorth neu gyngor iechyd meddwl arnoch.

Sefydliadau sy'n gallu helpu

  • Meic Cymru - gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
  • Mind - gwybodaeth a chymorth ynghyd â thaflenni y gellir eu lawrlwytho a straeon pobl go iawn. Chwilio 'iselder' o'r hafan.
  • National Centre for Mental Health - mae gan wefan NCMH adran iselder bwrpasol, gan gynnwys manylion am ymchwil, darlleniadau awgrymedig, a dolenni i wybodaeth am feddyginiaeth.
  • NHS 111 Wales - mae'r gwasanaeth 111 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio er gwybodaeth a chyngor iechyd ac i gael gofal sylfaenol brys.
  • Royal College of Psychiatrists - gwybodaeth ddarllenadwy, hawdd ei defnyddio ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth am broblemau iechyd meddwl, triniaethau a phynciau eraill, a ysgrifennwyd gan seiciatryddion gyda chymorth cleifion a gofalwyr.
  • Samaritans - ar gael 24 awr y dydd i ddarparu cymorth emosiynol cyfrinachol i bobl sy'n profi teimladau o drallod, anobaith neu feddyliau hunanladdol.
  • SANEline - llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth am iechyd meddwl. Hefyd yn cynnig cymorth emosiynol ac argyfwng i bobl sy'n profi salwch meddwl, eu teulu/gofalwyr, a ffrindiau.
  • Young Minds - elusen flaenllaw'r DU yn gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc.