Darlithoedd cyhoeddus
Mae ein cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cynnwys cyflwyniadau gan academyddion o fri rhyngwladol ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Mae gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gysylltiadau cryf ag academyddion blaenllaw o bob cwr o'r byd. Yn y gyfres hon, bydd arbenigwyr o ledled y DU yn cyflwyno’u gwaith, yn ogystal â chydweithwyr rhyngwladol y Ganolfan.
Cynhelir y darlithoedd yma bob mis, lle bydd pob un yn para am awr, gyda sesiwn holi ac ateb fer yn dilyn hynny.
Ni chodir tâl am fynd i unrhyw un o’r darlithoedd hyn.
Ymunwch â ni wrth groesawu Dr Daniel Pine i draddodi darlith arall yn y Ganolfan Wolfson
Gorbryder mewn plant a phobl ifanc: Cael hyd i gymorth yn ystod adegau o straen - 27 Medi 2023 - 2pm (BST)
Hyd yn oed cyn y pandemig, gorbryder oedd un o'r problemau mwyaf cyffredin a wynebodd plant a phobl ifanc. Dim ond yn ystod y tair blynedd diwethaf y gwelwyd bod y broblem hon ar gynnydd. Dr. Bydd Dr. Daniel S. Pine yn disgrifio'r hyn rydyn ni'n ei wybod yn barod am nodi symptomau gorbryder ac am y driniaeth sydd ar gael i’w drin ar gyfer plant a phobl ifanc.
Darlithoedd Blaenorol
Gallwch chi wylio pob un o’n darlithoedd blaenorol ar ein sianel YouTube.
- Yr Athro Thalia Eley - Archwiliadau hydredol o ganlyniadau datblygiadol a thriniaeth mewn pryder ac iselder mewn pobl ifanc ac oedolion ifanc.
- Dr Daniel Pine -
Gorbryder mewn plant a phobl ifanc - Cael hyd i gymorth mewn adegau o straen. - Dr Kirsten Asmussen - Beth sy'n gweithio i wella bywydau plant mwyaf agored i niwed Lloegr
- Dr Rhiannon Evans - Adolygiad systematig o ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
- Yr Athro Sarah Skeen a Mr Tatenda Mawoyo - Helpu pobl ifanc i ffynnu.
- Dr. Erik Simmons - The PLAY Collaborative: Menter Gwyddoniaeth Weithredu i ehangu cyrhaeddiad ac ansawdd ymweliadau cartref sy'n seiliedig ar chwarae gan dad i hyrwyddo datblygiad plentyndod cynnar ac atal trais.
- Yr Athro Katherine Shelton - Proffil iechyd meddwl a niwroseicolegol plant sydd wedi’u mabwysiadu o ofal: Cefnogi anghenion yng nghyd-destun bywyd teuluol.
- Dr Daniel Michelson - Datblygu a gweithredu ymyriadau iechyd meddwl pobl ifanc mewn cyd-destunau adnoddau isel: Gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen 'Premium for Adolescents' (PRIDE) yn India.
- Yr Athro Glyn Lewis - Bregusrwydd i achosion straen, atgyfnerthu dysgu ac iselder.
- Yr Athro Lucie Cluver - Magu Plant yn ystod Argyfyngau: Tystiolaeth ac arloesedd i gefnogi plant a'u gofalwyr.
Bydd y sgwrs nesaf yng nghyfres Darlithoedd Canolfan Wolfson gan yr Athro Katherine Shelton, 'Proffil iechyd meddwl a niwroseicolegol plant a fabwysiadwyd o ofal'.