Ewch i’r prif gynnwys

Llên Cymru

Yn 1950, sefydlwyd Llên Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan yr Athro G. J. Williams, ysgolhaig mwyaf amryddawn y Gymraeg, yn llwyfan i rannu ymchwil o'r radd flaenaf ar lenyddiaeth Gymraeg.

Golygwyd y cylchgrawn gan G. J. Williams am 13 blynedd, ac yng Nghaerdydd y bu’r olygyddiaeth hyd 1996 dan ofal A. O. H. Jarman ac yna Ceri Lewis.

Bu Gruffydd Aled Williams, Aberystwyth yn olygydd wedi hynny, cyn i'r olygyddiaeth ddychwelyd drachefn i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 2013.

Llên Cymru yw'r prif gyfnodolyn academaidd yn y maes a chyhoeddwn ymdriniaethau o'r ansawdd uchaf ar lenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol.

Croesawn yn arbennig ysgrifau ymchwil blaengar sy'n ymestyn ein dealltwriaeth o destunau Cymraeg o unrhyw gyfnod ac yn cynnig cyd-destunau deongliadol newydd.

Rydym hefyd yn cyhoeddi cyfraniadau byrion, golygiadau o destunau ac adolygiadau o lyfrau perthnasol i'r maes.

Darllen a thanysgrifio

Mae Llên Cymru ar gael i'w ddarllen ar bapur ac ar-lein. Mae modd darllen y cyfnodolyn am ddim os ydych yn aelod o lyfrgell prifysgol neu rai llyfrgelloedd cyhoeddus.

Gallwch danysgrifio i dderbyn copi print a/neu ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru.

Cyfrannu

Os hoffech gynnig ysgrif i Llên Cymru, neu os oes gennych gyfrol y byddech yn dymuno i ni ei hadolygu, cysylltwch â'r golygyddion drwy anfon e-bost.

Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer cynigion yw 1 Mai, a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ysgrif lawn yw 1 Hydref.

Cysylltwch â ni

Llên Cymru