Ewch i’r prif gynnwys

Seminarau Ymchwil

Mae ein hymchwil wrth wraidd yr hyn a wnawn fel Ysgol ac yn cael effaith ar ein haddysgu, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol.

Rydym yn cynnal nifer o seminarau ymchwil trwy gydol y flwyddyn sy'n rhoi cyfle i’n myfyrwyr doethurol i rannu eu gwaith (ar y gweill) gyda chynulleidfa gyhoeddus.

Mae ein holl seminarau ymchwil yn rhad ac am ddim, yn agored i bawb ac yn cael eu cynnal am 17:15 ac yn dod i ben am 18:15. Does dim angen cofrestru.

Seminarau yn 2018/19

Mynediad at yr anhygyrch: Sut gall cyfieithu ysgogi newidcymdeithasol yn y celfyddydau perfformio.

Dyddiad: 10 Hydref 2018

Lleoliad: 2.18 66a Park Place

Siaradwr: Patrick Young (OPRA Cymru)

Ar y cyd ag Ysgol Ieithoedd Modern.

Cafod unig gwmni opera Cymraeg y byd, OPRA Cymru, ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl. Roedd y briff yn syml: creu fersiynau Cymraeg o glasuron y repertoire operatig i'w perfformio. Roedd y weledigaeth yr un mor syml, ond ychydig yn fwy heriol efallai: creu cynulleidfa newydd ar gyfer opera ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Ers hynny mae'r cwmni wedi tyfu, ac erbyn hyn mae'n boblogaidd iawn. Bydd y ddarlith hon yn myfyrio ar y cyfraniad gwerthfawr y mae perfformiad a gyfieithwyd yn ei wneud at y gweithiau a gyfieithir ac, yn enwedig yn achos y Gymraeg, at yr iaith ei hun. Gan ddefnyddio profiad OPRA Cymru fel achos, bydd y ddarlith hefyd yn ystyried y manteision annisgwyl o gael gweledigaeth o'r fath ar gyfer perfformiadau a gyfieithwyd; ac yn ystyried i ba raddau y gallai'r manteision hynny fod yn bwysicach na'r prif amcanion, ac annog newid (a chyfnewid) cymdeithasol yn ogystal â diwylliannol.

Addysg Gymraeg Ail Iaith: Yr hyn y mae disgyblion ac athrawon yn ei feddwl am y ffordd yr ydym yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion.

Dyddiad: 16 Hydref 2018

Lleoliad: 0.36 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Kevin Smith (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) a Dr Mirain Rhys (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Rhywbeth yn trwblo?: ysbrydion a rhywedd mewn ffuglen fodern Gymreig.

Dyddiad: 13 Tachwedd 2018

Lleoliad: 0.36 Adeilad John Percival

Siaradwr: Yr Athro Katie Gramich (Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)

Pa effaith y mae addysg gyfrwng Cymraeg yn ei chael ar ddyheadau pobl ifanc yng Nghymoedd De Cymru?

Dyddiad: 11 Rhagfyr 2018

Lleoliad: 0.36 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Siôn Jones (School of Social Sciences)

Er bod addysg gyfrwng Gymraeg wedi tyfu yn Ne-Ddwyrain Cymru, does yna ddim llawer o ymchwil sydd wedi edrych ar yr effaith mae addysg gyfrwng Gymraeg yn cael ar ddyheadau pobl ifanc.

Yn y cyflwyniad yma, byddaf yn trafod rhai o ddarganfyddiadau o’n ymchwil sydd yn edrych ar ddyheadau myfyrwyr blwyddyn 11 (blwyddyn olaf o addysg orfodol yng Nghymru) sydd yn mynychu ysgol gyfrwng Gymraeg ac ysgol gyfrwng Saesneg yng Nghymoedd De Cymru.

Yn yr ymchwil, fe wnes i ddarganfod bod yna wahaniaethau clir rhwng dyheadau myfyrwyr yr ysgol gyfrwng Gymraeg a myfyrwyr yr ysgol gyfrwng Saesneg. Yn y cyflwyniad, byddaf yn trafod i ba raddau mae mynychu una’i ysgol gyfrwng Gymraeg neu ysgol gyfrwng Saesneg yn effeithio ar ddyheadau pobl ifanc.

Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi: Y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a Gogledd Ddwyrain India.

Dyddiad:  05 Chwefror 2019

Lleoliad: 2.03 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Lisa Lewis (Prifysgol De Cymru)

Bydd y seminar yn rhoi gorolwg o’r prosiect ymchwil ‘Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi’ a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau perfformio, ffilm ddogfen a cherddoriaeth i archwilio hanes diwylliannol pobl Cymru a phobl Bryniau Casia yng ngogledd-ddwyrain India, hanes a wreiddir yng nghyfnod Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yn yr ardal (1841–1969).

Ond mae’r berthynas yn ymestyn y tu hwnt i hynny; esgorodd ar gasgliad cymhleth ac amrywiol o ddeunydd rhyngddiwylliannol sy’n parhau. Mae ein deialog draws-ddiwylliannol yn archwilio ac yn ymateb i’r deunydd hyn yn ogystal â’n cyd-destun diwylliannol cyfredol ar erchwyn dwy wlad fawr.

“Byddai’n anodd imi ddod o hyd i rywun i ymarfer y Gymraeg ag ef” – Credau ac ideolegau ynghylch dysgu’r Gymraeg ymhlith mewnfudwyr o Wlad Pwyl yn Aberystwyth

Dyddiad:  14 Chwefror 2019

Amser: 13:00-14:00

Lleoliad: 1.69 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Karolina Rosiak (Prifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań)

Bydd y papur hwn yn trafod canfyddiadau astudiaeth ethnograffeg ar repertoires ac arferion ieithyddol mewnfudwyr o Wlad Pwyl yn Aberystwyth, Cymru. Mae Aberystwyth yn dref brifysgol gyda 13 000 o drigolion. Lleolir y dref yng Ngheredigion, un o gadarnleoedd y Gymraeg. Ers 2004 mae’r dref wedi denu mewnfudwyr o Wlad Pwyl sy’n chwilio am waith yn yr ardal. Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi bod yn denu myfyrwyr o Wlad Pwyl ar raddfa fawr gyda chymorth asiantaethau recriwtio.

Gan ystyried bod gan y rhan fwyaf o’r mewnfudwyr hyn wybodaeth elfennol ynghylch Cymru, ei hieithoedd a’i diwylliant, byddant yn dysgu am y Gymraeg ac yn ffurfio barn amdani wrth iddynt gyrraedd Aberystwyth. Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn trafod argraffiadau cyntaf cyfranogwyr am y Gymraeg ynghyd â’u credau ynghylch pa mor ddefnyddiol yw dysgu’r iaith ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae’r seminar (Cyffyrddiad ieithyddol, newid ieithyddol a hunaniaeth ranbarthol) wedi ei ohirio, byddwn yn ail-drefnu yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyffyrddiad ieithyddol, newid ieithyddol a hunaniaeth ranbarthol: Ffrangeg a'r Wasgwyneg yn Béarn, Ffrainc (Ar y cyd ag Ysgol Ieithoedd Modern.)

Dyddiad: I'w gadarnhau

Lleoliad: 2.03 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Damien Mooney (Prifysgol Bryste)

Ar y cyd ag Ysgol Ieithoedd Modern.

Bydd y cyflwyniad hwn yn ymchwilio i oblygiadau cyffyrddiad iaith rhwng y Ffrangeg ac iauth frodorol, yr Wasgwyneg yn rhanbarth Béarn yng ngogledd-orllewin Ffrainc. Fe drafodir  y newidiadau ieithyddol sy’n mynd rhagddynt yn yr amrywiad rhanbarthol ar y Ffrangeg a siaredir yn Béarn, er mwyn archwilio sut y gellir perfformio hunaniaeth ranbarthol yn yr iaith ddominyddol (Ffrangeg) ymhlith y cenedlaethau iau gan fod yr iaith frodorol (Gwasgwyneg) yn ddarfodedig.

Sbaeneiddio, lefelu a safoni: golwg aramrywiadau Cymraeg Patagonia heddiw.

Dyddiad:  09 Ebrill 2019

Lleoliad: 2.03 Adeilad John Percival

Siaradwr: Dr Iwan Wyn Rees (Ysgol y Gymraeg)

Er bod canmlwyddiant a hanner y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia wedi derbyn cryn sylw ar y cyfryngau yng Nghymru, a bod rhai astudiaethau sosioieithyddol wedi eu cyflawni yn sgil ‘adfywiad’ y Gymraeg yn Nhalaith Chubut ers y 1990au (e.e. Johnson 2009; Coupland a Garrett 2010; Carter et al. 2011), mae’n syndod na wnaed unrhyw waith maes sylweddol ar ddatblygiad tafodieithoedd Cymraeg y Wladfa ers dechrau’r 1970au, dros ddeugain mlynedd yn ôl bellach (R. O. Jones 1973/4; 1976).

Bydd y papur hwn felly yn ymgais i lenwi’r bwlch sylweddol hwnnw ac i daflu goleuni newydd ar natur amrywiadau Cymraeg cyfoes y Wladfa. Drwy gyflwyno data ieithyddol a gasglwyd yn ddiweddar, dangosir sut y mae tafodieithoedd Cymraeg Patagonia wedi datblygu ers y 1970au. Yr astudiaeth hon felly fydd y gyntaf i ddadansoddi effaith Prosiect yr Iaith Gymraeg ar batrymau ieithyddol sawl carfan o siaradwyr Cymraeg yn Nhalaith Chubut. Gan hynny, gobeithir y bydd y papur hwn yn esgor ar drafodaeth ar natur amrywiadau newydd y Wladfa a dyfodol y Gymraeg yno.