Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Cymraeg Caerdydd

Two smiling women looking at a Welsh lanuage exercise

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau Cymraeg i oedolion.

Yn sicr bydd dysgu Cymraeg gyda ni yn brofiad llwyddiannus a gwerth chweil gyda’r ystod mor eang o gyrsiau ac adnoddau arloesol sydd ar gael. Rydym yn cynnig sesiynau blasu byr, cyrsiau i ddechreuwyr a chyrsiau hyd at lefel pobl sy’n rhugl lle mae croeso i ddysgwyr yn ogystal â’r rhai sydd eisiau gwella eu Cymraeg.

Ceir cyrsiau unwaith a dwywaith yr wythnos, bob dydd  a chyrsiau bloc. Rydym yn cynnig cyrsiau sy’n eich galluogi chi i astudio hanner y cwrs ar-lein a hanner yn yr ystafell ddosbarth.

Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gymwys ar gyfer cyrsiau yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg y gellir eu haddysgu yn eich cwmni/sefydliad.

Rydym yn rhan o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd ac mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad o addysgu Cymraeg i oedolion. Felly dewch i ymuno â’n cymuned a byddwn yn helpu i bwysleisio’r Gymraeg ynoch chi.

Cysylltwch â ni

Dysgu Cymraeg Caerdydd