Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Mae llawer o gyfleoedd i astudio gyda ni ac ymuno â’n cymuned gyrfa gynnar ryngddisgyblaeth lewyrchus.

Cyfleoedd doethurol

Rydym ni’n ymwneud â dwy Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol. Rhyngddynt, mae canolfannau WISE a FRESH yn hyfforddi dros 120 o fyfyrwyr ar draws Cynghrair Fawr y Gorllewin (GW4).

Yn y ddwy ganolfan, mae rhanddeiliaid yn ganolog i fframio problemau ymchwil a chefnogi’r tîm ymgynghorol. O ganlyniad, mae rhanddeiliaid yn chwarae rôl bwysig yn hyfforddiant myfyrwyr trwy letya lleoliad ymchwil neu oruchwylio prosiectau.

FRESHcohort1

FRESH Centre for Doctoral Training

UKRI NERC-funded Centre for Doctoral Training in Freshwater Biosciences and Sustainability.

WISECDT

WISE Centre for Doctoral Training

EPSRC-funded Centre for Doctoral Training in Water Informatics Science and Engineering.

ECORISC Logo

Canolfan Hyfforddiant Doethurol ECORISC

Canolfan Hyfforddiant Doethurol a ariennir gan UKRI NERC sy'n archwilio risgiau cemegion ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

Plasticbottles

Hybiau Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol Plastigau Cynaliadwy

Canolfan a ariennir gan EPSRC sy'n darparu amgylchedd hyfforddi rhyngddisgyblaethol ar gyfer myfyrwyr PhD gwyddorau corfforol sy'n gweithio ar ddatblygu plastigau cynaliadwy.

Mae ein hymchwilwyr cyswllt hefyd yn ymwneud â goruchwylio myfyrwyr o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC GW4+.

NERCDTP

NERC GW4+ Doctoral Training Partnership

The NERC GW4+ Doctoral Training Partnership is a collaborative partnership offering research training in environmental sciences.

Hefyd mae llawer o gyfleoedd PhD ar gael yn ein hysgolion cyswllt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Find a PhD.

Prif gyswllt

Am fwy o wybodaeth am ein cyfleoedd astudio ôl-raddedig, cysylltwch â Madeline McLeod.

Madeline McLeod-Reynolds

Madeline McLeod-Reynolds

Manager NERC Centre for Doctoral Training

Email
mcleodmg@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9027

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Mae ein hymchwilwyr cyswllt yn ymwneud â dwy raglen sy’n archwilio heriau dŵr cyfredol.

WaterChangingWorld

MSc Dŵr mewn Byd Newidiol

Mae’r MSc Dŵr mewn Byd Newidiol yn cyfuno gwybodaeth o sawl maes i annog agwedd eang at broblemau dŵr, ac mae’n darparu sylfaen gref ar gyfer gyrfa ymchwil mewn pwnc cysylltiedig â dŵr.

Dŵr mewn Byd sy’n Newid (Msc)

Mae’r cwrs proffesiynol hwn i raddedigion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau'n cynnig trosolwg eang broblemau dŵr byd-eang a hyfforddiant mewn sgiliau allweddol ar newid yn yr hinsawdd a'r cylch dŵr, sy'n gynyddol angenrheidiol ar gyfer bod yn arweinydd dŵr.

MSc Cadwraeth ac Ecoleg Fyd-eang

Mae’r MSc Cadwraeth ac Ecoleg Fyd-eang yn cwmpasu’r prif faterion cadwraeth sy’n effeithio ar gynefinoedd dŵr croyw ac ecosystemau ar draws y byd.

Ecoleg Bydeang a Chadwraeth (MSc)

Nod ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yw hyfforddi ecolegwyr a chadwraethwyr y dyfodol.

MSc mewn Peirianneg Sifil a Dŵr

Mae'r MSc mewn Peirianneg Sifil a Dŵr yn hyfforddi peirianwyr dŵr ymgynghorol y dyfodol ac yn eu cyflwyno i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiadurol a hydroleg amgylcheddol.

Peirianneg Sifil a Dŵr (MSc)

Nod y cwrs hwn yw ategu gradd israddedig perthnasol drwy gyflwyno’r myfyrwyr i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiannol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddod yn nyfroedd arfordiroedd ac aberoedd a dyfroedd mewndirol.

Cynigir modiwlau eraill sydd â chydrannau gwyddor dŵr ar draws y Brifysgol:

Cyfleoedd am leoliad

Fel rhan o’n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, rydym ni’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael lleoliad o hyd at 9 mis gyda’n hymchwilwyr cyswllt.

Mae cyfleoedd am leoliad hefyd ar gael o dan gynlluniau megis Erasmus ar gyfer myfyrwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gydag un o’n hymchwilwyr, cysylltwch â Madeline McLeod i gael rhagor o wybodaeth.

RachelandStudents

Grŵp gyrfa gynnar

Dyw hi byth yn rhy gynnar i gychwyn cymuned ryngddisgyblaeth. Mae ein grŵp gyrfa  gynnar yn dod â myfyrwyr ôl-raddedig, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar at ei gilydd o wahanol ddisgyblaethau ar draws y Brifysgol.

Cwrs Ar-lein Agored Anferth (MOOC)

Oherwydd bod heriau dŵr ymhlith bygythiadau mwyaf y byd, fe wnaethon ni ddatblygu’r cwrs hwn gyda thîm rhyngddisgyblaeth o’n hymchwilwyr cyswllt er mwyn archwilio’r agweddau ffisegol, biolegol a chymdeithasol ar ddiogelwch dŵr.

Yn ystod y 30 mlynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd 80% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o brinder dŵr. Mae ein MOOC, sy’n rhedeg ddwywaith y flwyddyn, yn cyflwyno’r dysgwyr i heriau diogelwch dŵr ac yn esbonio pam mae gweithgaredd dynol a materion amgylcheddol yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hadnoddau dŵr.

RiverAutumn

Heriau Diogelwch Dŵr - Cwrs Ar-lein Agored Enfawr

Gallwch gael cyflwyniad i heriau diogelwch dŵr ar raddfa leol a byd eang gyda’n cwrs ar-lein