Ewch i’r prif gynnwys

Dŵr cylchol

Optimeiddio effeithlonrwydd a thriniaeth adnoddau dŵr gan ddefnyddio dull system gyfan.

Cyswllt allweddol

Yr Athro Max Munday

Yr Athro Max Munday

Director of Welsh Economy Research Unit

Email
mundaymc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5089
Yr Athro Devin Sapsford

Yr Athro Devin Sapsford

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
sapsforddj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5916

Gwybodaeth

Mae'r thema Dŵr Cylchol yn dwyn ynghyd gysyniadau'r economi gylchol, y cylchoedd dŵr naturiol a dynol rhyng-gysylltiedig, a thechnolegau carbon isel/gwyrdd. Gan ddefnyddio cyfres eang o ddulliau gweithredu a gweithio gyda phartneriaid anacademaidd, rydym yn ceisio datblygu strategaethau ymyrryd newydd i fynd i'r afael â llygryddion dŵr a gwastraff dŵr, a materion effeithlonrwydd.

Mae cysyniad yr economi gylchol wedi dod yn gyffredin yn y llenyddiaeth ymchwil. Mae'n canolbwyntio ar ddefnydd mwy effeithlon o ddeunydd sy'n gysylltiedig â defnydd pobl ac adfywio a gwella systemau amgylcheddol, ac mae'n ystyried materion sy'n ymwneud â dylunio gwastraff a rheoli llygredd, hirhoedledd a chynnal a chadw cynhyrchion.

Mae adfywio cyfalaf naturiol yn fodel craidd yn natblygiad yr economi gylchol. Ac eto, mae llawer o'r llenyddiaeth am systemau dŵr a'r economi gylchol yn methu â mynd i'r afael â sut mae arloesi ac optimeiddio wrth drin gwastraff, defnyddio/ailddefnyddio deunyddiau, ac echdynnu a defnyddio adnoddau, yn cysylltu ag adfywio cyfalaf naturiol. Er enghraifft, gall arloesi i gynllunio allanoli gwastraff a chadw deunyddiau mewn defnydd hirdymor gael cyfres o effeithiau ar wasanaethau ecosystemau dŵr croyw yn y dyfodol.

Mae rhai o'r cysylltiadau cryfaf rhwng arferion economi gylchol a gweithredu nodau datblygu cynaliadwy wedi ymwneud â materion dŵr glân a glanweithdra. Bu'n anodd gweithredu nodau datblygu cynaliadwy wrth reoli adnoddau dŵr confensiynol oherwydd diffyg busnes ac ewyllys wleidyddol. Trwy ystyried gwydnwch, gwasanaethau ecosystemau a'r cyfalaf naturiol, mae angen i ddadleuon economi gylchol ail-fframio dŵr o broblem reoli i gyfle yn y dyfodol.

Yn y thema hon, rydym yn archwilio'r mater hwn drwy lens amlddisgyblaeth, drwy ddefnyddio a datblygu enghreifftiau o ymchwil trin dŵr a gwastraff, rheoli basnau dŵr, systemau dŵr amaethyddol, logisteg a systemau economaidd. Mae rhan o'n gwaith yn ceisio nodi:

  • sut mae cysyniad yr economi gylchol yn cael ei weithredu mewn ymchwil,
  • sut mae egwyddorion penodol yr economi gylchol yn cael eu hegluro,
  • sut yr eir i'r afael ag adfywio model cyfalaf naturiol (yn enwedig o amgylch ecosystemau dŵr croyw).
WaterDropCircle

Mentrau cyfredol

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau ymchwil parhaus:

Aelodau'r thema