Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdai ar Dueddiadau Eithafol yn y Tywydd (Tywydd GDE)

Ymunwch â ni yn 2022 ar gyfer ein hail Weithdy ar Dueddiadau Eithafol yn y Tywydd (Tywydd GDE) i drafod addasrwydd data a dulliau ar gyfer gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau prin a pheryglus mewn hinsawdd sy’n cynhesu.

Mae'r digwyddiadau tywydd mwyaf peryglus, yn ôl eu natur, yn brin. Un o’r heriau mwyaf i ymchwilwyr hinsawdd yw’r cais cymdeithasol am wybodaeth am newidiadau i amlder a maint digwyddiadau eithafol a risgiau canlyniadol i gymunedau a’r amgylchedd yn y degawdau i ddod.

Yn sgil rhyddhau amcanestyniadau hinsawdd y DU 2018 (UKCP18), bydd ein hail weithdy yn darparu fforwm ar gyfer trafod addasrwydd data a dulliau i ateb cwestiynau am ddigwyddiadau eithafol yn y dyfodol.

Cynhaliwyd ein gweithdy cyntaf yng Ngregynog rhwng 29 Ebrill a 1 Mai 2019. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, edrychwch ar ein crynodeb neu ar dudalen digwyddiad gweithdy 2019 Prifysgol Caerdydd. Mae sleidiau cyflwyniad hefyd ar gael ar gais.

Cysylltwch â Kirstin Strokorb os dymunwch eu derbyn.

Hoffem ddiolch i holl siaradwyr 2019, cyflwynwyr posteri a mynychwyr am eu cyfraniadau rhagorol.

Gregynog2019
Mynychwyr Gweithdy Tywydd GDE 2019 yng Ngregynog.

Siaradwyr wedi'u cadarnhau ar gyfer 2022

  • Petra Friederichs (Uwch Ddarlithydd mewn Dynameg Hinsawdd)
  • Douglas Maraun (Pennaeth Grŵp Modelu Hinsawdd Rhanbarthol, Canolfan Wegener ar gyfer Newid Hinsawdd a Byd-eang, Graz, Awstria)
  • Claudia Neves (Darlithydd Ystadegau, Coleg y Brenin Llundain, Cymrodoriaeth Arloesedd EPSCR mewn Rhagweld Peryglon Lluosog)
  • Holger Rootzen (Athro Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegau, Prifysgol Gothenburg)
  • Thordis Thorarinsdottir (Prif Wyddonydd Ymchwil, Canolfan Gyfrifiadura Norwy).

Dyddiadau

19 i 21 Medi 2022.

Yn wyneb y newyddion trist presennol, marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II, a’r angladd a gynhaliwyd ar 19 Medi, byddwn yn diwygio’r amserlen.

Cofrestru

Mae'r cofrestri wedi cau.

Lleoliad

Gregynog Hall
Gregynog Hall. Photo: ©Kirstin Strokorb

Mae meithrin cyd-ddealltwriaeth o'r heriau dan sylw, egluro cyfleoedd a meithrin perthnasoedd gwaith yn un o brif nodau'r gyfres hon o weithdai.

Er mwyn hwyluso’r dysgu a’r myfyrio, byddwn yn cynnal ein gweithdai yng nghanol cefn gwlad hyfryd Cymru yng Ngregynog, ymhell o fwrlwm bywyd modern.

Gwybodaeth teithio

Trwy drafnidiaeth gyhoeddus

Y maes awyr agosaf yw Birmingham International. Mae trenau rheolaidd o Birmingham International a dinasoedd eraill y DU i'r Drenewydd (Cymru). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Great Western Railway. Cyn y cyfarfod, byddwn yn holi am eich amser cyrraedd yn yr orsaf fel y gallwn drefnu i'ch codi oddi yno.

Yn y car

Mae cyfarwyddiadau ar gael ar wefan Gregynog.

Cysylltu

Ysgrifennwch at wetweather@caerdydd.ac.uk am unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Trefnwyr

Dr Kirstin Strokorb

Dr Kirstin Strokorb

Lecturer

Email
strokorbk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8833
Yr Athro Owen Jones

Yr Athro Owen Jones

Chair in Operational Research

Email
joneso18@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2251 0253