Rhwydwaith unigolion ar ddechrau eu gyrfa
Mae’r rhwydwaith hwn yn dod ag israddedigion, ôl-raddedigion ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd sy'n gweithio ar bynciau sy'n ymwneud â dŵr, neu sydd â diddordeb mewn pynciau o’r fath, at ei gilydd.
Pwyllgor unigolion ar ddechrau eu gyrfa
Mae gan y pwyllgor hwn aelod gwahanol sy’n cydweithio i greu'r rhwydwaith mwyaf o arweinwyr dŵr y dyfodol o Brifysgol Caerdydd.
Mae'r pwyllgor yn trefnu:
- Digwyddiadau cymdeithasol: cwisiau, gweithgareddau ar ôl gwaith, 'oriau toesenni'
- Digwyddiadau academaidd: seminarau, trafodaethau dogfennol ynghylch pynciau fel llygredd plastig, ffasiwn cynaliadwy a chyfiawnder amgylcheddol
- Digwyddiadau datblygu gyrfa: cyflwyniadau cryno gan academyddion a gweithwyr proffesiynol eraill, sesiynau hyfforddi fel ‘Ysgrifennu ar gyfer Y Sgwrs’

Dr Josh Davies - Jones
Postdoctoral Research Associate & Nanovibrational Spectroscopy Manager
- daviesja21@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6795
A Tyler Cuddy o'r MSc Ecoleg Bydeang a Chadwraeth, ac Ethel Wynard-Nadzo o'r MSc Dŵr mewn byd newidiol.
Ail-lenwi Caerdydd
Mae ein grŵp i unigolion ar ddechrau eu gyrfa wedi bod yn cydlynu'r ymgyrch Ail-lenwi yng Nghaerdydd ers mwy na dwy flynedd. Nod y grŵp yw rhoi gwybod i bobl am lygredd plastig – pwnc sydd wrth wraidd ein hymchwil.
Nod yr ymgyrch Ail-lenwi yw mynd i'r afael â llygredd plastig yn y man cychwyn drwy sicrhau y gall pobl ail-lenwi eu poteli dŵr yn rhwydd mewn siopau, bwytai a chaffis. Erbyn hyn, mae mwy na 100 o orsafoedd ail-lenwi ar gael yng Nghaerdydd, diolch i waith caled y grŵp hwn. Rydym yn cydweithio'n agos â Refill Wales i sicrhau mai Cymru yw’r genedl Ail-lenwi gyntaf.
Cydlynwyr Ail-lenwi Caerdydd
Grwpiau disgyblaethol
Rydym yn gysylltiedig â myfyrwyr o wahanol grwpiau ymchwil dŵr disgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cyd-drefnu digwyddiadau’n aml i ehangu'r rhwydwaith.
- Is-adran Organebau a'r Amgylchedd
- Grŵp mewnol y Ddaear
- Rhwydwaith Gweithwyr Dŵr Proffesiynol ac Ifanc Caerdydd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Peirianneg ac Ymchwil Hydro-Amgylcheddol
Grwpiau ar draws y Brifysgol
Mae'r Sefydliad Ymchwil Dŵr yn cydweithio â grwpiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Rydym bob amser yn fodlon eich helpu i gysylltu â chyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt. Mae’r gwaith rydym yn cydweithio arno ar hyn o bryd yn cynnwys:
Cysylltwch â ni
Water Research Institute
Cysylltwch â’n tîm i gael rhagor o wybodaeth am y sefydliad a sut gallwch weithio gyda ni.