Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Gillian Bristow

Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ac Athro Daearyddiaeth Economaidd yw’r Athro Gillian Bristow.

Mae diddordebau Gillian ym meysydd datblygu economaidd rhanbarthol, cadernid economaidd rhanbarthol, cystadleurwydd lleol/rhanbarthol a pholisïau rhanbarthol.

A hithau’n Ddeon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, mae Gillian yn helpu i lunio a defnyddio strategaeth ymchwil ac arloesedd y Brifysgol, ynghyd ag agenda ymchwil y Coleg.

Mae Gillian yn cynorthwyo Bwrdd y Coleg a'r Cyfarwyddwyr Ymchwil ac yn cydweithio â nhw i ddatblygu a chryfhau'r diwylliant a'r amgylchedd ymchwil, gan gefnogi'r amrywiaeth o grwpiau, canolfannau a sefydliadau ymchwil sydd gennym. Mae hi’n gweithio i gynnal cysylltiadau cryf â'n harianwyr a'n partneriaid allanol, hefyd.

Ar hyn o bryd, mae’n arwain un o brif brosiectau ymgysylltu’r Brifysgol – Cyfnewidfa’r Ddinas-Ranbarth – a sefydlwyd i gryfhau cysylltiadau’r Brifysgol â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Proffil academaidd yr Athro Gillian Bristow.