Tocynnau rhatach ar gyfer y Diwrnod Agored israddedig
Gallwch dderbyn gostyngiad ar docynnau trên Great Western Railway (GWR) a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer ein Diwrnodau Agored israddedig.
Great Western Railway
Mae Great Western Railway (GWR) yn cynnig gostyngiad o 20% ar docynnau rheilffordd ‘Prynu Ymlaen Llaw’ i'n Diwrnodau Agored ar 14 Medi 2024 a 19 Hydref 2024.
Sut i gael y gostyngiad
Prynwch eich tocynnau trên am bris rhatach. Nid oes angen côd gan fod y gostyngiad yn cael ei roi yn awtomatig (yn dibynnu ar argaeledd, gweler y telerau ac amodau).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â GWR drwy ffonio +44 (0)345 700 0125 (opsiwn 2, ac yna opsiwn 2 eto).
Cymorth i archebu tocynnau a brynir ymlaen llaw
Tocynnau y gellir eu prynu ymlaen llaw
Mae ‘Prynu Ymlaen Llaw’ yn cyfeirio at docyn y gellir ei brynu hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn teithio, cyhyd ag y bo ar gael. Unwaith y caiff ei brynu, nid yw'n hyblyg (h.y. nid oes modd newid amserau na dyddiadau teithio) ac nid oes modd cael ad-daliad.
Ni allaf weld y pris gostyngol
Mae croes fach wrth ymyl pris y tocyn i ddynodi’r pris i fyfyrwyr ar gyfer y tocynnau ‘Prynu Ymlaen Llaw’. Os nad oes croes goch i'w gweld, yna mae'n bosibl y bydd y tocynnau 'Prynu Ymlaen Llaw' ar gyfer y diwrnod hwnnw wedi'u gwerthu i gyd. Unwaith y bydd y pris gostyngol wedi'i ddewis, bydd seren '*' i’w gweld o dan adran y prisiau.
Nid yw'r ddolen at y dudalen prynu tocynnau'n gweithio
Efallai fod angen i chi ddiweddaru eich porwr rhyngrwyd. Rydym yn argymell defnyddio Google Chrome neu Firefox. Efallai y bydd angen clirio eich cwcis.
Dydw i ddim yn gallu gweld y pris gostyngol
Dim ond ar lwybrau GWR y mae'r teithiau hyn ar gael. Gwnewch yn siŵr fod yr holl daith ar GWR. Gwiriwch y gorwel prynu tocynnau hefyd. Mae 'Prynu Ymlaen Llaw' yn agor 12 wythnos cyn teithio.
Telerau ac amodau
- Dim ond trwy'r ddolen a ddarperir y gellir prynu tocynnau
- Mae gostyngiad GWR ar gyfer y Diwrnodau Agored ar gael ar gyfer teithio ar wasanaethau GWR yn unig. Os ydych chi'n teithio o ranbarth o'r wlad, neu o fewn rhanbarth o’r wlad, nad yw'n rhan o rwydwaith GWR, mae'n bosibl y bydd angen i chi brynu tocynnau ar wahân i'ch cyrchfan
- Rhaid i'r gyrchfan fod yn berthnasol i Brifysgol Caerdydd h.y. Caerdydd Canolog, Cathays neu Gaerdydd Heol y Frenhines
- Rhaid i fan cychwyn eich taith fod yn rhan o rwydwaith GWR, ond nodwch nad yw tocynnau Prynu Ymlaen Llaw ar gael ar gyfer teithiau pellter byr
- Mae'r cynllun hwn ar gael i'w ddefnyddio gyda thocynnau Prynu Ymlaen Llaw yn unig. Mae'r rhain yn gosod amserau a dyddiadau teithio ac nid oes modd eu cyfnewid na chael ad-daliad
- Mae gostyngiad GWR ar gyfer y Diwrnodau Agored ar gael ar gyfer y dyddiadau a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd a'r wythnos y cynhelir y digwyddiad, sy'n mynd o ddydd Sadwrn i'r dydd Sul canlynol. Felly, mae cyfle i chi aros am fwy na diwrnod i gael gweld rhagor o’r ardal leol
- Mae modd defnyddio’r gostyngiad gyda’ch Cerdyn Rheilffordd 16-25. Ticiwch y blwch ar y dudalen nesaf ato a dewiswch o'r gwymplen
Sylwer mai dim ond pan fydd tocynnau'n cael eu prynu yn uniongyrchol o GWR.com ac nid trwy drydydd parti fel Trainline y mae’r gostyngiad yn ddilys.
Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 10% ar docynnau trên i’n Diwrnod Agored ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.
Sut i gael y gostyngiad
Bydd tocynnau ar gael i’w prynu’n syth ar gyfer 13 Medi - 15 Medi (yn gynhwysol), i’r rheini sydd am deithio i Gaerdydd y diwrnod blaenorol neu sydd am ddychwelyd yn ôl drannoeth y digwyddiad.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu fater yr hoffech ei drafod ynghylch y cynnig hwn, cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru yn hytrach na Phrifysgol Caerdydd.
Mae'n rhaid dewis Caerdydd Canolog fel cyrchfan wrth archebu tocyn ar gyfer ein Diwrnod Agored. Mae ein prif gampws, Parc Cathays, o fewn taith fer ar fws neu drên o Orsaf Caerdydd Canolog.
Dim ond drwy ffonio’r tîm Teithio ar Fusnes, Trafnidiaeth Cymru mae modd prynu tocynnau. Bydd angen cerdyn credyd/debyd i dalu.
Mae’r tîm Teithio ar Fusnes ar gael o 09:30 tan 16:30 ddydd Llun i Gwener. Ffoniwch Trafnidiaeth Cymru ar 02920 720515.
Telerau ac amodau
- Mae'r gostyngiad yn ddilys ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TFW) yn unig
- Mae’r gostyngiad o 10% ar gael ar gyfer tocynnau Prynu Ymlaen Llaw Trafnidiaeth Cymru yn unig
- Mae’r tocynnau’n cyfateb i amserau penodol a byddant yn ddilys ar gyfer y trên penodol hwnnw yn unig
- Byddwch yn casglu tocynnau drwy ddefnyddio cyfeirnod Tocyn wrth Ymadael a roddir wrth i chi brynu’r tocyn
- Nid oes modd cael ad-daliadau ar gyfer tocynnau
Gallwch weld map o'n campws sy'n nodi lleoliad adeiladau lle mae'n ysgolion academaidd, llety a gwasanaethau eraill.