Ar y trên
Mae modd teithio ar y trên i Gaerdydd yn ddiffwdan o Lundain, meysydd awyr mwyaf y DU yn ogystal â threfi a dinasoedd ledled y wlad.
Mae tua dau ar bymtheg o drenau'n rhedeg rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd bob dydd, ac mae'r daith yn cymryd llai na dwy awr.
Mae trenau rheolaidd ar y rhwydwaith rhanbarthol yn cysylltu Caerdydd â llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU, gan gynnwys:
- Bryste (50 munud)
- Birmingham (2 awr 30 munud)
- Southampton (2 awr 40 munud)
- Manceinion (3 awr 20 munud)
- Lerpwl (3 awr 45 munud)
Mae nifer o gwmnïau yn rhedeg trenau sy'n teithio'n uniongyrchol i Orsaf Caerdydd Canolog o feysydd awyr Heathrow a Gatwick.
Campws Cathays/Parc Maendy
Gorsaf Stryd y Frenhines Caerdydd yw’r lleoliad gorau ar gyfer ymweld ag adeiladau canlynol y Brifysgol:
- Ysgol Peirianneg (Adeiladau Trevithick a’r Frenhines)
- Tŷ McKenzie
- Tŷ Eastgate
- Llys/Neuadd Senghennydd
- Neuadd Gordon
Mae gorsaf Cathays wedi ei leoli yng nghanol campws Parc Cathays ac yn darparu mynediad i bob adeilad arall y Brifysgol yn Cathays/Parc Maendy gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr.
Campws Parc y Mynydd Bychan
Mae Parc y Mynydd Bychan wedi’i leoli tua thair milltir o ganol y ddinas.
Gorsafoedd lefel isaf a lefel uchaf Mynydd Bychan yw’r gorsafoedd agosaf o fewn taith gerdded o oddeutu ugain munud o gampws Parc y Mynydd Bychan.