Llety unigol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd hunanarlwyo i unigolion sydd yn dymuno dod i Gaerdydd ar gyfer dibenion hamdden neu arall.
Mae llety haf ar gael o Gorffennaf tan Medi a yr isafswm aros yw 2 ddiwrnod. Mae argaeledd yr haf yn cynnwys ystafelloedd yn ddeiliadaeth sengl, gyda naill ai ensuite neu safonol gyda chyfleusterau rhannu ystafell ymolchi.
Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd deiliadaeth dwbl ar gael. Mae ein holl ystafelloedd yn daith gerdded fyr o ganol y ddinas.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau yn cynnwys:
- fflatiau o niferoedd amrywiol a bydd gan bob fflat cegin/ardal fwyta
- llestri, cyllyll a ffyrc, potiau a sosbenni a bwrdd smwddio
- tywelion, dillad gwely a chyfleusterau gwneud te a choffi
- parcio am ddim i ymwelwyr preswyl
- golchdy
- haearn smwddio, addaswyr a sychwyr gwallt sydd ar gael o’r dderbynfa.
Yn dibynnu ar eich anghenion, byddwn yn gallu eich cynghori ar ba breswylfa fydd mwyaf addas ar eich cyfer.
Hygyrchedd
Efallai y bydd yn bosibl gwneud addasiadau hygyrchedd yn ystod eich arhosiad. Cysylltwch â'r tîm llety i drafod y rhain.