Tŷ Dewi Sant
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XN
Mae Tŷ Dewi Sant wedi’i leoli ar Ffordd Parc y Mynydd Bychan, lle mae yna fynedfa hygyrch drwy esgynfa a drws llithro awtomatig.
Mae’r brif fynedfa hygyrch i Dŷ Dewi Sant drwy’r cyntedd; ar hyd llwybr i’r chwith o’r fynedfa ac yn syth drwy Dŷ Aberteifi sy’n arwain at y maes parcio o flaen Tŷ Dewi Sant (llun ar y chwith uchod). Mae’r brif fynedfa drwy esgynfa a drws awtomatig. Mae’r dderbynfa syth ymlaen ac mae’r lifftiau wedi’i lleoli tu ôl i’r dderbynfa sydd yn mynd i bob llawr.
Mae’r toiled hygyrch neillryw ar y llawr gwaelod (rhif ystafell GF6).
Parcio
Mae mynediad i gerbydau i'r maes parcio ger Residential Road, gyferbyn â Thŷ Penfro, lle mae yna ddau le parcio hygyrch.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 82 lle parcio beic a rannir rhwng pedwar lleoliad o amgylch yr adeilad.
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.