Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans

Adeilad Syr Geraint Evans
Adeilad Syr Geraint Evans

Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XN

Mae Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans wedi’i leoli ar Rodfa Academaidd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae yna fynediad gwastad i’r adeilad drwy ramp isel a drysau awtomatig. Dylai ymwelwyr roi gwybod i’r Dderbynfa gan fod rhai ardaloedd o'r adeilad yn gyfyngedig a gall fod angen cerdyn mynediad dros dro arnoch. Mae’r adeilad ar agor rhwng 8yb – 5.30yh a gallwch gysylltu â’r dderbynfa ar +44 (0)29 2074 4520.
Mae’r lifft gyferbyn â drysau’r fynedfa ac yn gwasanaethu bob llawr. Mae yna doiledau hygyrch ar bob llawr, yn agos i’r lifftiau. Mae yna ardal seddi a chegin ar y llawr cyntaf gyferbyn ag Ystafell Seminar WHRI.

Parcio

Mae yna faes parcio staff tu ôl Adeilad Ymchwil Cardiofasgwlaidd Syr Geraint Evans, lle gallwch gael fynediad o Rodfa Academaidd lle mae yna 2 lle parcio hygyrch wedi’i neilltuo. Mae meysydd parcio ymwelwyr a chleifion (talu ac arddangos) wedi’i lleoli tu ôl Adeilad yr Ysbyty Deintyddol, ar y Porth (gyferbyn â’r Uned Argyfwng) ac ar Ffordd Parc y Mynydd Bychan, ac mae yna leoedd parcio hygyrch wedi’i neilltuo.

Mae yna hefyd ardal parcio hygyrch yn agos i’r cyntedd.

Parcio Car