Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Syr Martin Evans

Adeilad Syr Martin Evans
Adeilad Syr Martin Evans

Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

Mae Adeilad Syr Martin Evans, wedi'i leoli rhwng Plas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa. Mae’r brif fynedfa ar Lôn y Coleg, llwybr rhwng Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa. Mae mynediad gwastad i Adeilad Syr Martin Evans drwy lifft allanol hygyrch, sydd wedi’i leoli ar Lôn y Coleg. Gallwch ddefnyddio’r lifft allanol gyda cherdyn y Brifysgol wedi’i actifadu. Cysylltwch â’ch tiwtor, rheolwr neu diogelwch i actifadu eich Cerdyn y Brifysgol i ddefnyddio’r lifft.

Mae prif fynedfa Adeilad Syr Martin Evans wedi’i leoli ar Lôn y Coleg a gallwch gael mynediad drwy ramp neu risiau. Mae yna ddau set o ddrysau awtomatig i fynd i mewn i’r adeilad.

Mae yna hefyd fynediad i Adeilad Syr Martin Evans o ardal llawr pren CUBRIC. Gallwch gael fynediad i’r ardal drwy Adeilad y Tŵr neu’r ramp rhwng Diogelwch ac Adeilad y Tŵr. Mae’r ramp rhwng Diogelwch ac Adeilad y Tŵr yn ramp serth. Mae yna ganllaw ar yr ochr dde. Mae cerbydau yn defnyddio’r ramp hwn, felly cymerwch ofal.

Mae’r ddesg derbynfa gyferbyn â drysau’r brif fynedfa. Mae’r ddesg yn isel ac mae porthorion a staff diogelwch yno o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) 07:30-18:00. I gysylltu â dderbynfa Adeilad Syr Martin Evans, ffoniwch +44 (0)29 2087 6704.

Mae’r toiled hygyrch ar y llawr gwaelod yn adain y Gorllewin yr adeilad, rhif ystafell E/0.11. O’r brif fynedfa, ewch ar hyd y coridor i’r chwith. Ewch ar hyd y coridor ar y dde, heibio lifft adain y gorllewin ac mae’r toiled hygyrch ar y dde.

Mae yna ddau lifft yn Adeilad Syr Martin Evans. Mae’r lifft i’r dde o’r brif fynedfa yn rhoi mynediad i loriau uwch adain y gorllewin. Mae’r llyfrgell wedi’i leoli ar y llawr cyntaf a gallwch gael mynediad iddo drwy'r lifft. Mae’r lifft i’r chwith o’r brif fynedfa yn rhoi mynediad i adain y Gorllewin a Chanolog Adeilad Syr Martin Evans. Ar gyfer dibenion diogelwch, mae’r lifft yn cael ei weithredu gan staff diogelwch yn unig. Defnyddiwch y lifft ar gyfer mynediad gwastad i Ddarlithfeydd John Pryd a Ffisioleg B.

Mae yna siop goffi ac ardal eistedd i’r dde o’r brif fynedfa.

Parcio

Nid oes maes parcio ar gyfer adeilad Syr Martin Evans.

Ceir parcio stryd ar hyd Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa sy'n rhad ac am ddim ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Cedwir mannau parcio Bathodyn Glas ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar hyd Plas y Parc.

Parcio ar gyfer beiciau

Ceir 38 o mannau parcio ar gyfer beiciau sydd wedi'u rhannu rhwng tri lleoliad o gwmpas yr adeilad.

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â pharcio, cysylltwch â:

Parcio Car