50 Plas y Parc
Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr
50 Plas y Parc
Cathays
CF10 3AT
Ceir mynediad gwastad ar hyd Plas y Parc gyda phalmant isel wrth y croesfannau.
Mae yna risiau a ramp yn arwain i brif fynedfa'r Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae yna 5 cam yn arwain i ddrws y fynedfa. Mae'r ramp yn fas â 2 fan gorffwys gwastad rhwng 3 ramp byr (graddiant o 1/14, 1/9 a 1/14). Mae yna ganllawiau ar y ddwy ochr o’r canllawiau ac mae’r drws i Gefnogi Myfyrwyr yn awtomatig.
Mae desg dderbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr yn isel gyda lle i bengliniau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae desg y dderbynfa wedi’i osod â chylchwifren i helpu pobl gyda nam ar y clyw. I ddefnyddio’r cylchwifren, defnyddiwch y gosodiad ‘T’ ar eich dyfais clyw.
Mae’r drysau sy’n arwain at yr ystafelloedd cynghori yn awtomatig gyda sgrin gyffwrdd. Mae yna seddau amrywiol a mannau yn yr ardal aros.
Mae’r toiled hygyrch wedi’i leoli ger y fynedfa i’r dde, ger y grisiau. Mae’r drws yn ysgafn iawn i agor ac yn 800mm o led.
Nid oes lifft yn 50 Plas y Parc, ond cynigir pob gwasanaeth ar y llawr gwaelod. Mae gan y grisiau ganllaw ar un ochr ac mae ymylon pob gris yn dangos cyferbyniad gweledol da.
Parcio
Mae parcio talu ac arddangos ar gael ar hyd stryd Plas y Parc.
Gall dalwyr bathodynnau glas barcio yno yn rhad ac am ddim. Ceir mannau parcio bathodyn glas ar hyd Plas y Parc.
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.