Is-strategaeth ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd
Bydd ein is-strategaeth ymchwil ac arloesedd newydd yn sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a'n bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at iechyd, cyfoeth, diogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
Heb ymchwil ac arloesedd, byddai COVID-19 wedi bod yn drychineb iechyd byd-eang digynsail. Fe wnaeth buddsoddi’n hirdymor mewn ymchwil ac arloesedd yn y DU alluogi ymateb cyflym.
Datblygu therapïau oedd yn cael y prif sylw yn y lle cyntaf ond aethpwyd ati wedi hynny i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael ag effeithiau hirdymor y pandemig ar gymdeithas, iechyd a’r economi. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd – o fiowybodegwyr i gyfreithwyr a chlinigwyr i newyddiadurwyr – wedi chwarae rôl hollbwysig yn yr ymdrech ledled y DU i fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan COVID-19, ac maent yn parhau i wneud hynny.
Ategir hyn gan ffyrdd newydd o rannu data a chydweithredu’n fyd-eang - rhywbeth na fyddem wedi gallu ei ddychmygu flwyddyn yn ôl. Wrth edrych i’r dyfodol, nid yw ein dyheadau o ran ymchwil ac arloesedd wedi newid, ond byddant yn cael eu cyflawni yng nghyd-destun y newidiadau seismig hyn ac yn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa gref o hyd i gyfrannu at iechyd, cyfoeth, diogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a’r DU a ledled y byd.
Ein huchelgais
Prifysgol lwyddiannus, eang ei chwmpas ac ymchwil-ddwys sy’n arwain y byd yw Prifysgol Caerdydd. Mae’r ffaith ein bod yn un o’r pum prifysgol uchaf yn REF 2014 yn cadarnhau hynny.
Fel Cartref Arloesedd Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Rydym yn helpu ein cymuned o ysgolheigion i weithio â dychymyg, egni a chreadigrwydd a datblygu atebion i heriau byd-eang, p’un a ydynt yn rhai a achosir gan COVID-19, iechyd meddwl, troseddu a diogelwch neu newid yn yr hinsawdd. O weithio i ddileu digartrefedd i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dai clyfar sy’n effeithlon o ran ynni, mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn rhagori mewn meithrin y partneriaethau allanol sydd eu hangen arnynt i gymhwyso ymchwil ragorol yn llwyddiannus.
Amcanion sylfaenol
Byddwn yn:
- lle mae gyrfaoedd academaidd a diwylliant ymchwil cadarnhaol yn ffynnu
- sy'n sicrhau bod rhagoriaeth ymchwil wrth wraidd arloesedd a’i chenhadaeth ddinesig
- sy'n buddsoddi mewn cyfleusterau, offer a chymorth o'r radd flaenaf ar gyfer ein hymchwilwyr, ein staff technegol a’n partneriaid
- sy'n parhau i dyfu ac amrywio ein partneriaethau busnes a strategol i ysgogi buddsoddiad mewnol yng Nghymru
- lle mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn fyd-eang yn cael eu meithrin.
Darllenwch yr is-strategaeth lawn

Is-strategaeth ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd
Darllenwch ein is-strategaeth ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd.